Teyrnged i'r gitarydd Motörhead o Bontypridd Phil Campbell wedi iddo farw yn 64 oed

Phil Campbell

Mae’r gitarydd o Bontypridd, Philip Campbell, oedd yn fwyaf enwog am fod yn rhan o fand Motörhead, wedi marw yn 64 oed.

Mewn neges ar dudalen Facebook ei fand, Phil Campbell And The Bastard Sons, cyhoeddodd ei deulu fod Phil wedi marw neithiwr.

Roedd wedi cychwyn y band gyda’i feibion Tyla, Todd a Dane.

“Gyda thristwch mawr iawn rydyn ni’n cyhoeddi marwolaeth ein tad annwyl, Philip Anthony Campbell, a fu farw’n dawel neithiwr ar ôl brwydr hir a dewr mewn gofal dwys yn dilyn llawdriniaeth fawr gymhleth,” medden nhw.

“Roedd Phil yn ŵr ffyddlon, yn dad arbennig, ac yn daid balch a chariadus, a oedd yn cael ei adnabod fel ‘Bampi’. 

“Roedd pawb oedd yn ei nabod yn ei garu’n fawr, a bydd colled fawr ar ei ôl. Bydd ei etifeddiaeth, ei gerddoriaeth a’r atgofion a grëodd yn byw am byth.

“Gofynnwn yn garedig i breifatrwydd ein teulu gael ei barchu yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn.”

Roedd Phil Campbell yn gitarydd i Motorhead o 1984 nes iddyn nhw ddod i ben yn 2015.

Bu farw Lemmy, canwr y band, yn 2015 ar ôl brwydr yn erbyn canser y brostad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.