Swyddogion yr Unol Daleithiau ar eu ffordd i Iran ar gyfer trafodaethau

Culfor Hormuz

Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi dweud bod swyddogion o’r Unol Daleithiau yn mynd i Bacistan ar gyfer trafodaethau ag Iran ar ddod a’r rhyfel i ben.

Mewn neges ar ei gyfrif Truth Social, rhybuddiodd Donald Trump y bydd ymosodiadau’r Unol Daleithiau yn ailddechrau os na fydd cytundeb heddwch.

Cyhuddodd Iran o dorri’r cadoediad drwy ei gweithredoedd yng Nghulfor Hormuz, gan ddweud eu bod nhw unwaith eto wedi rhwystro taith y rhan fwyaf o longau.

“Penderfynodd Iran danio bwledi ddoe yng Nghulfor Hormuz — gan gefnu’n llwyr ar ein Cytundeb Cadoediad ni!” meddai.

“Cafodd llawer ohonynt eu hanelu at long Ffrengig, a llong cargo o’r Deyrnas Unedig. Doedd hynny ddim yn neis, nag oedd e? 

“Mae fy nghynrychiolwyr yn mynd i Islamabad, Pacistan — byddan nhw yno nos yfory, ar gyfer trafodaethau.

“Rydyn ni’n cynnig CYTUNDEB teg a rhesymol iawn, a gobeithio y byddan nhw’n ei dderbyn oherwydd, os na wnân nhw, bydd yr Unol Daleithiau yn dinistrio pob gorsaf bŵer, a phob pont, yn Iran. 

“DIM MWY O FOD YN MR. DYN NEIS!” meddai Trump.

Dywedodd ffynonellau o Iran wrth CNN y bydd dirprwyaeth o Tehran yn cyrraedd ddydd Mawrth ac yn gweithio tuag at gyhoeddi estyniad i’r cadoediad.

Os oes cytundeb, a bod Donald Trump yn cytuno i fynd i Islamabad, byddai arlywydd Iran hefyd yn mynd yno a byddai “cyfarfod ar y cyd rhwng yr arlywyddion”.

Mae’r ddwy ochr yn dal ymhell o ddod i gytundeb, meddai llefarydd senedd Iran, wrth gyfryngau’r wlad mewn cyfweliad.

Llun: Reuters.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.