Sut mae gwaharddiad ar blant yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol wedi gweithio yn Awstralia?

Plentyn ar iPad

Mae Keir Starmer wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth y DU yn gwahardd plant dan 16 oed rhag defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.

Wrth wneud hynny, cyfeiriodd at Awstralia, lle mae gwaharddiad o’r fath eisoes mewn grym.

Ond sut mae’r gwaharddiad wedi gweithio yn y wlad honno?

Yn y bôn, gwaharddiad ar greu neu gadw cyfrifon sydd ar waith yno, yn hytrach na gwaharddiad ar bobl ifanc yn gweld cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol.

Felly dyw rhieni na phlant ddim yn cael y bai os ydi plant yn mynd ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Ers 10 Rhagfyr 2025, rhaid i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn y wlad honno gymryd “camau rhesymol” er mwyn atal pobl dan 16 rhag creu neu gadw cyfrifon.

Mae’r cyfrifoldeb am wneud hynny ar y llwyfannau eu hunain yn hytrach na’r plant neu’r rhieni, gyda chosb o hyd at 49.5m o ddoleri Awstralia os nad ydyn nhw’n gwneud hynny.

Does dim un dull penodol o wneud hynny, gyda’r cyfryngau cymdeithasol hyd yma yn defnyddio cymysgedd o wirio oedran, gwirio dogfennau adnabod, ac amcangyfrif oedran drwy ofyn i ddefnyddiwr dynnu llun o’i hun.

Mae gorfodaeth arnyn nhw hefyd i ddileu neu analluogi cyfrifon presennol pobl dan 16 oed.

Mae’r newidiadau wedi effeithio ar apiau gan gynnwys Facebook, Instagram, Reddit, Snapchat, Threads, TikTok, Twitch, X a YouTube.

Ond mae rhai gwasanaethau wedi cael eu heithrio o’r gwaharddiad, gan gynnwys rhai at ddibenion addysg ac iechyd.

Fel y disgwyl, mae’r gwaharddiad wedi cael canlyniadau cymysg, gyda nifer o bobl ifanc yn dod o hyd i ffyrdd o greu cyfrifon er eu bod dan 16 oed.

Un ffordd y mae rhai pobl ifanc wedi ceisio osgoi’r gwaharddiad yw drwy ddefnyddio gwasanaethau VPN er mwyn ceisio smalio eu bod mewn gwledydd eraill.

Roedd rhai hefyd yn llwyddo i honni eu bod nhw dros 16, neu roedd dulliau asesu lluniau yn dod i’r casgliad eu bod nhw dros 16 pan nad oedden nhw.

Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi dweud fore Llun y bydd y gwaharddiadau yma yn mynd y tu hwnt i’r rhai yn Awstralia.

Dywedodd Keir Starmer y bydd Llywodraeth y DU yn cymryd camau “sy’n arwain y byd” ar lwyfannau gemau a ffrydio byw, fel na fydd dieithriaid yn gallu cysylltu â phlant.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.