Stori glowyr Cwm Dulais yn cyrraedd y West End
Bydd sioe gerdd yn seiliedig ar y ffilm Pride yn cael ei llwyfannu yn Llundain dros yr haf, ar ôl iddi gael ei pherfformio yn Theatr y Sherman, Caerdydd, ym mis Ebrill.
Roedd y ffilm, a gafodd ei rhyddhau yn 2014, yn dilyn criw o ymgyrchwyr LHDTQ+ o Lundain, sef Lesbians and Gays Support the Miners, neu LGSM.
Fe wnaeth y grŵp godi arian i gefnogi glowyr a’u teuluoedd yng Nghwm Dulais yn ystod streic y glowyr yn 1984–85.
Mae’r ffilm yn dangos y cyfeillgarwch annisgwyl a ddatblygodd rhwng dwy gymuned oedd yn wynebu rhagfarn a chaledi.
Ymddangosodd sêr fel Bill Nighy ac Andrew Scott yn y ffilm wreiddiol, gydag actorion o Gymru, gan gynnwys Rhodri Meilir a Lisa Palfrey, hefyd yn rhan o’r cast.
John Lumsden a Samuel Barnett fydd yn chwarae rhannau’r ymgyrchwyr LHDTQ+ yn y sioe lwyfan.
Mae’r sioe yn gynhyrchiad gan y National Theatre, a bydd yn rhedeg yn y Dorfman Theatre yn Llundain rhwng 11 Mehefin a 12 Medi 2026.
Yr un tîm creadigol sydd tu ôl i’r ffilm a’r sioe gerdd, sef yr awdur Stephen Beresford a’r cyfarwyddwr Matthew Warchus.
Wrth sôn am y sioe gerdd, dywedodd Warchus fod y stori “mor annhebygol o fod yn wir”.
'Llawn llawenydd'
“Mae bron yn amhosib credu’r peth,” meddai.
Er mwyn rhoi rhagflas o’r sioe, fe wnaeth y cast a’r criw cynhyrchu ddod at ei gilydd yn hen neuadd les y glowyr yng Nghwm Tawe Uchaf i gwrdd ag aelodau o’r gymuned a ysbrydolodd y ffilm a’r sioe gerdd.
Roedd y neuadd yn ganolbwynt i waith LGSM yn ystod streic y glowyr.
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Beresford, sydd wedi ysgrifennu’r llyfr a’r geiriau ar gyfer y sioe gerdd: “Mae’n hyfryd bod yma a chlywed atgofion pawb am y diwrnod y glaniodd y criw hoyw yn y cwm.”
Mae’r sioe gerdd wedi’i gosod i sgôr wreiddiol, gyda chaneuon wedi’u hysbrydoli gan anthemau protest, pop, roc, disco a thraddodiad corawl Cymru.
Cafodd y gerddoriaeth ei chyfansoddi gan Christopher Nightingale, John Cohen a DJ Walde.
Mae’r ddrama wedi cael ei disgrifio fel un “ddoniol, tanbaid ac yn llawn llawenydd.”