Sir Conwy: Arestio pedwar dyn am ddwyn persawr gwerthfawr
Cafodd pedwar dyn eu harestio yn dilyn adroddiadau o ddwyn persawr gwerthfawr o siopau yn Llandudno.
Dywedodd Heddlu’r Gogledd fod swyddogion wedi dilyn car yr oedd y dynion yn teithio ynddo i’r Rhyl.
Cafodd y car ei atal yn y dref, ac fe gafodd y pedwar dyn eu harestio yno.
Mae tri o’r pedwar dyn wedi’u cyhuddo mewn cysylltiad â’r digwyddiad.