Sioe gerdd boblogaidd Pride yn symud i'r West End

Pride

Bydd yr addasiad llwyfan o'r ffilm Pride yn symud i'r West End yn Llundain, wedi ei phoblogrwydd yn y National Theatre, gyda phob tocyn wedi ei werthu yno. 

Ar ôl gorffen yn y National Theatre ar 12 Medi, bydd y sioe gerdd yn ailagor yn y London Bridge Theatre yn y West End ar 12 Tachwedd.

Symudodd y sioe gerdd i Lundain ar ôl iddi gael ei pherfformio yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd fis Ebrill diwethaf, gyda'r actorion a chantorion Cymreig Gillian Elisa a Mared Williams ymhlith y prif gymeriadau. 

Wrth gael eu holi ar raglen Heno ar S4C yn y gwanwyn dywedodd y ddwy ei bod yn fraint cael bod yn rhan o'r cynhyrchiad. 

"Mae pawb sydd yn ymwneud â'r sioe gerdd Pride yn ffantastic, a fi'n meddwl, waw, fi yn y sioe fi ishe bod ynddo," meddai Gillian Elisa, sy'n chwarae'r cymeriad Gwen. 

Dywedodd Mared Williams, sy'n chwarae'r cymeriad Margaret: "Enw'r sioe di Pride, sef balchder, a ma' gymaint o falchder a llawenydd yn y sioe. Ma' cael bod yn rhan o lwyfannu fe am y tro cynta - dwi mor falch."         

Roedd y ffilm wreiddiol, a gafodd ei cyhoeddi yn 2014, yn dilyn criw o ymgyrchwyr LHDTQ+ o Lundain, sef Lesbians and Gays Support the Miners, neu LGSM.

Fe wnaeth y grŵp godi arian i gefnogi glowyr a’u teuluoedd yng Nghwm Dulais yn ne-orllewin Cymru yn ystod streic y glowyr yn 1984–85.

Cyfeillgarwch

Mae’r cynhyrchiad yn dangos y cyfeillgarwch annisgwyl a ddatblygodd rhwng dwy gymuned oedd yn wynebu rhagfarn a chaledi.

Ymddangosodd sêr fel Bill Nighy ac Andrew Scott yn y ffilm wreiddiol, gydag actorion o Gymru, gan gynnwys Rhodri Meilir a Lisa Palfrey, hefyd yn brif gymeriadau.

Yr un tîm creadigol sy'n gyfrifol am y ffilm a’r sioe gerdd, sef yr awdur Stephen Beresford a’r cyfarwyddwr Matthew Warchus.

Er bod y sioe yn adrodd stori o'r 80au, dywedodd Stephen Beresford fod y themâu mor berthnasol nawr ag erioed.  

"Rwy'n caru'r ffaith ei bod yn stori am y modd y mae bodau dynonl yn medru uniaethu â'i gilydd," meddai. 

Bydd tocynnau ar gyfer Pride yn y Bridge Theatre ar werth o 2 Medi.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.