Rhun ap Iorwerth yn annog Andy Burnham i weithredu ar ddatganoli
Mae Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi annog Prif Weinidog newydd y DU, Andy Burnham, i "droi ei ymrwymiad i ddatganoli yn weithredu" yn ystod eu sgwrs ffôn gyntaf.
Cafodd Mr Burnham ei benodi yn Brif Weinidog y DU ddydd Llun ar ôl cael ei ethol yn arweinydd y Blaid Lafur ddydd Gwener.
Yn dilyn ei benodiad, dywedodd Llywodraeth Cymru fod Rhun ap Iorwerth wedi cynnal ei alwad ffôn gyntaf gyda Mr Burnham fore Mawrth.
"Rwy’n falch o longyfarch y Prif Weinidog mewn sgwrs bore ‘ma ac i nodi fy ngobaith y gallwn feithrin perthynas bositif ac adeiladol," meddai Mr ap Iorwerth.
"Mi wnes ei annog i droi ei ymrwymiad i ddatganoli yn weithredu, a grymuso Cymru hefo’r pwerau i gryfhau ein cymunedau ym meysydd plismona a chyfiawnder, Ystadau’r Goron, rheilffyrdd a chyllido. Nodais hefyd fy awydd i gydweithio er mwyn taclo’r argyfwng costau byw.
"Edrychaf ymlaen at gyfarfod yn fuan iawn fel y gallaf ddechrau trafodaethau o ddifri ar ran pobl Cymru."
Daw'r alwad ar ôl i 10 Downing Street gyhoeddi nos Lun mai Stephen Kinnock yw'r Ysgrifennydd Cymru newydd.
Roedd rhagflaenydd Mr Kinnock, Jo Stevens, eisoes wedi cyhoeddi ei bod wedi gadael ei swydd, gan ddymuno’n dda i’w holynydd.
Er nad yw Mr Burnham wedi amlinellu cynlluniau penodol ar gyfer datganoli yng Nghymru, mae wedi galw'n gyson am drosglwyddo mwy o bwerau ac adnoddau ariannol o San Steffan i'r cenhedloedd a'r rhanbarthau.