Perygl o 'ddigwyddiad trychinebus' yn Senedd San Steffan heb waith adnewyddu brys

San Steffan

Fe allai'r Brenin gael ei adael yn y tywyllwch yn ystod seremoni fawreddog Agoriad Swyddogol Senedd San Steffan yn y dyfodol, yn ôl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Mae'r pwyllgor yn rhybuddio y gallai hyn neu “ddigwyddiad trychinebus” arall ddigwydd oni bai bod yr oedi gyda'r gwaith o adnewyddu'r adeiladau yn cael ei ddatrys.

Yn ôl y pwyllgor o ASau, y sefyllfa orau y gellid ei disgwyl heb gymryd camau fyddai i'r adeilad hanesyddol barhau i ddirywio a dadfeilio'n raddol.

Fe bleidleisiodd ASau o blaid gadael adeiladau'r Senedd er mwyn cynnal gwaith adnewyddu yn 2018. Ond ers hynny, mae anghydfod wedi bod ynglŷn ag a ddylai hyn ddigwydd.

Yn ei adroddiad diweddaraf, mae'r pwyllgor yn dweud bod disgwyl i'r costau wythnosol sy'n gysylltiedig â'r gwaith gynyddu o £1.5 miliwn i £2 filiwn yn y blynyddoedd nesaf.

Daw'r adroddiad cyn cyfres o bleidleisiau tyngedfennol ynglŷn â'r rhaglen adnewyddu. Y disgwyl yw y bydd Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi yn lleihau nifer yr opsiynau o bedwar i ddau.

'Mwy tryloyw'

Un o'r opsiynau sy'n cael ei ystyried yw gwagio adeiladau'r Senedd yn gyfan gwbl er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith adnewyddu. Gallai hyn gostio hyd at £15.6 biliwn a chymryd hyd at 24 mlynedd i'w gwblhau.

Yr ail opsiwn yw gwagio rhan o'r adeiladau yn unig a chynnal rhaglen ehangach o waith cynnal a chadw ac adnewyddu. Gallai hyn gostio hyd at £39 biliwn a chymryd hyd at 61 mlynedd i'w gwblhau.

Mae angen i ASau ac aelodau Tŷ'r Arglwyddi hefyd roi eu sêl bendith ar y cam cyntaf, a fyddai'n canolbwyntio ar eu symud i leoliadau eraill dros dro.

Ond mae'r pwyllgor yn rhybuddio bod posibilrwydd na fydd y lleoliadau dros dro yn barod erbyn yr adeg y bydd disgwyl i'r gwleidyddion symud.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod angen i'r rhaglen fod yn fwy tryloyw ac atebol i'r cyhoedd. Mae'r pwyllgor yn argymell sefydlu pwyllgor dethol i graffu ar y gwaith.

Mae llefarydd ar ran Senedd San Steffan wedi dweud bod “gwaith eisoes yn cael ei wneud ar draws adeiladau'r Senedd er mwyn sicrhau diogelwch y rhai sy'n gweithio yma ac yn ymweld â'r safle”.

Ychwanegodd y llefarydd fod cynigion adfer ac adnewyddu wedi'u cyflwyno sy'n “cynnwys argymhelliad i gynnal cyfnod cychwynnol o saith mlynedd o waith, gyda therfyn ar y costau. Mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi cydnabod yn flaenorol fod hwn yn ddull synhwyrol o weithredu.”

Dywedodd y llefarydd y bydd y cynigion yn cael eu trafod gan aelodau'r ddau Dŷ er mwyn penderfynu ar y ffordd ymlaen.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.