Nawfed dyn wedi'i gyhuddo o gamfanteisio rhywiol ar blant yn hanesyddol yng Nghymru

Heddlu.
Heddlu.

Mae nawfed dyn wedi'i gyhuddo fel rhan o ymchwiliad i gamfanteisio rhywiol ar blant yn hanesyddol yng Nghymru.

Cynhaliodd ditectifs o Heddlu Gwent ymgyrch yr wythnos diwethaf i arestio wyth dyn mewn lleoliadau yng Nghasnewydd, Abertawe, Llundain, Birmingham, Swydd Gaerhirfryn, Caeredin ac Argyll a Bute yn yr Alban.

Cafodd arestiad pellach ei wneud ddydd Gwener ac mae Mohammed Ramzan, 76, wedi'i gyhuddo o saith trosedd ers hynny, gan gynnwys sawl cyhuddiad o dreisio.

Mae'r naw dyn yn wynebu 41 cyhuddiad rhyngddynt.

Dywedodd Heddlu Gwent fod Ymgyrch Derw yn ymchwiliad i adroddiadau a wnaed gan sawl menyw o gam-drin rhywiol a gyflawnwyd yn eu herbyn fel plant rhwng 1985 a 1996.

Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud ag wyth dioddefwr a oedd yn blant ar adeg y troseddau honedig.

Mae'r dynion, rhwng 54 a 76 oed, i gyd yn ddinasyddion Prydeinig ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ar Orffennaf 24.

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Ditectif Andrew Tuck: “Rydym yn parhau i gefnogi’r dioddefwyr yn yr achos hwn ochr yn ochr ag asiantaethau arbenigol.

“Rwy’n deall y gall ymchwiliadau o’r natur hon achosi pryder yn ein cymunedau.

“Fodd bynnag, mae’n hanfodol i’r dioddefwyr yn yr achos hwn, ac er mwyn uniondeb yr ymchwiliad, nad oes dim yn cael ei bostio ar gyfryngau cymdeithasol a allai effeithio ar yr achos llys.

“Bydd unrhyw un sy’n rhoi gwybod am gam-drin plant yn cael ei gymryd o ddifrif.

“Rydym yn annog unrhyw un sydd wedi profi cam-drin, neu sy’n pryderu y gallai rhywun fod yn dioddef, i ddod ymlaen.“

Byddwn yn gwrando, yn ymchwilio i bob trosedd ac yn sicrhau y gallwch gael mynediad at y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.