Môn: Cais i ddymchwel hen dafarn a gafodd ei difrodi gan dân a chodi tai ar y safle
Mae datblygwyr yn dymuno dymchwel hen dafarn ym Môn a gafodd ei difrodi mewn tân yn 2023 er mwyn adeiladu tai ar y safle.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn ystyried cais i godi naw o dai ar safle Gaerwen Arms, ar Ffordd y Capel ym mhentref Gaerwen.
Fe gafodd y dafarn ei difrodi’n sylweddol yn dilyn tân mawr yn yr adeilad ym Mehefin 2023, gyda’r gegin, bar, bwyty ac adeilad allanol yn cael eu difrodi.
Cafodd y tân ei ddechrau gan beiriant sychwr yn yr adeilad allanol, gyda’r gwasanaeth tân yn cadarnhau ei fod yn dân damweiniol.
Cafodd rhan o’r adeilad ei ddymchwel ar ôl y tân, ac nid yw'r dafarn wedi ail-agor ers hynny.
Mae’r adeilad wedi bod allan o ddefnydd dros y blynyddoedd, gan arwain at “ddirywiad pellach”, yn ôl datblygwyr y cais, AMP Construction Ltd.
Mewn dogfen sydd yn rhan o’r cais cynllunio, dywedodd y datblygwyr:
“Bragdy oedd y perchennog blaenorol. Arhosodd yr eiddo dan ei berchnogaeth yn dilyn y tân, ond ni chafodd y dafarn ei hadfer na’i dychwelyd i weithredu.
“Mae’r adeilad presennol bellach mewn cyflwr gwael ac yn dirywio.
"Yn dilyn y tân a’r cyfnod gwag hirfaith, mae’r adeilad wedi dioddef dŵr yn dod i mewn a difrod dŵr, dirywiad i’w ffabrig mewnol ac allanol, difrod sy’n gysylltiedig â’r tân, dirywiad pellach yn deillio o fod yn agored i’r tân am gyfnod hir a diffyg meddiannaeth, a phryderon strwythurol.
“Felly nid yw’r adeilad yn gyfleuster cymunedol gweithredol, cyflawn sy’n aros i gael ei ailfeddiannu’n syml.”
'Cydnabod pwysigrwydd hanesyddol'
Mae datblygwyr yn gobeithio adeiladau saith cartref pedair-llofft a dau gartref dwy-lofft ar y safle, gan gynnwys dau o dai fforddiadwy.
Ychwanegodd y datblygwyr: “Mae’r ymgeisydd yn cydnabod pwysigrwydd hanesyddol y Gaerwen Arms ac yn deall y pryderon a all godi pan mae cais i ailddatblygu hen dafarn.
“Fodd bynnag, mae amgylchiadau’r safle hwn yn bwysig.
“Nid cynnig i gau tafarn sy’n bodoli ac yn gweithredu’n llwyddiannus yw hwn. Daeth gweithrediad y Gaerwen Arms i ben yn dilyn tân difrifol ym mis Mehefin 2023.
“Cafodd rhan o’r adeilad ei ddymchwel wedi hynny, ac mae’r safle wedi aros yn wag a heb ei ddefnyddio ers hynny.”
Fe fyddai’r cynllun yn “cyfrannu 64% tuag at y diffyg o 14 cartref yng Ngaerwen” yn ôl datblygwyr.
Ychwanegodd y datblygwyr: “Prynodd yr ymgeisydd yr eiddo ym mis Rhagfyr 2025, ar ôl i’r perchennog blaenorol fethu ag adfer y dafarn ac ar ôl i’r eiddo gael ei farchnata gyda’r potensial ar gyfer datblygiad preswyl.
“Felly, mae’r cais yn cynrychioli ailddatblygiad safle a ddatblygwyd yn flaenorol - sydd wedi bod yn wag ers amser maith, wedi’i ddifrodi gan dân ac yn dirywio - o fewn ffin ddatblygu Gaerwen, yn hytrach na chau cyfleuster cymunedol sy’n gweithredu.
“Mae tystiolaeth glir hefyd o alw lleol cyfredol am y tai arfaethedig, gan gynnwys diddordeb gan breswylwyr presennol Gaerwen sy’n dymuno symud i gartref mwy.”
Fe fydd y cais yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ynys Môn maes o law.