Caerdydd: Gyrwyr bws yn 'gwrthod gweithio yn ystod yr haf am ei bod yn 40°C'
Fe aeth gyrrwr bws yng Nghaerdydd mor sâl tra'n gweithio yn ystod tywydd poeth yr haf nes bod angen sylw meddygol arno, yn ôl undeb Unite.
Mae'r undeb yn honni bod y tymheredd yng nghabanau rhai o fysiau'r ddinas wedi cyrraedd tua 40°C, gydag 11 o weithwyr yn gwrthod parhau i weithio oherwydd eu bod nhw'n credu bod yr amodau'n rhy beryglus.
Mae'r anghydfod bellach wedi arwain at bleidlais ar weithredu diwydiannol ymhlith dros 500 o yrwyr, peirianwyr, glanhawyr a gweithwyr eraill Bws Caerdydd.
Bydd y bleidlais yn agor ar 14 Hydref ac yn cau ar 4 Tachwedd.
Yn ôl Unite, roedd y gweithwyr yn poeni am eu diogelwch eu hunain a diogelwch teithwyr.
Mae'r undeb yn honni bod cwmni Bws Caerdydd wedi mynnu bod gyrwyr yn parhau i weithio yn ystod y tywydd poeth, er gwaethaf pryderon y gweithwyr.
Hefyd mae'r undeb yn honni bod cyflog yr 11 gweithiwr a wrthododd weithio wedi cael ei atal.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Bws Caerdydd am ymateb i honiadau Unite.
40°C
Profodd Cymru sawl cyfnod o dywydd poeth iawn yn ystod haf 2026, gyda thymheredd yn codi dros 30°C mewn rhannau o'r wlad.
Cafodd rhybuddion iechyd eu cyhoeddi yn ystod y cyfnodau poeth, gyda phobl yn cael eu hannog i gymryd camau i gadw'n ddiogel yn y gwres.
Mae Unite yn honni bod y tymheredd y tu mewn i gabanau rhai gyrwyr wedi codi i tua 40°C.
Dywedodd yr undeb fod rhai o'u haelodau'n teimlo eu bod nhw mewn perygl wrth yrru, a bod 11 wedi penderfynu ei bod hi'n rhy beryglus iddyn nhw a'u teithwyr barhau.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Unite, Sharon Graham: "Mae mynnu bod gyrwyr yn parhau â'u gwaith mewn bysiau lle mae'r tymheredd yn cyrraedd 40 gradd yn ddi-hid ac yn peryglu teithwyr yn ogystal â gyrwyr.
"Mae angen i Fws Caerdydd weld synnwyr a dod â'r anghydfod hwn i ben."
Yn ôl Unite, byddai ad-dalu'r cyflog a gollodd yr 11 gweithiwr yn costio ychydig dros £1,000.
Galw am bolisi newydd
Mae'r undeb hefyd yn galw am gytundeb gyda Bws Caerdydd ar bolisi manwl ar gyfer gweithio mewn tymheredd eithafol.
Byddai'r polisi'n ceisio pennu pa dymheredd fyddai'n cael ei ystyried yn anniogel, yn ogystal â chefnogi gweithwyr a allai fod angen addasiadau rhesymol.
Dywedodd swyddog rhanbarthol Unite, Alan McCarthy, fod y bleidlais ar weithredu diwydiannol yn ganlyniad i'r ffordd y mae rheolwyr y cwmni wedi delio â'r anghydfod.
"Bydd gweithredu diwydiannol yn dod â Chaerdydd i stop, ond mae hyn yn llwyr o ganlyniad i agwedd llawdrwm a dialgar rheolwyr Bws Caerdydd," meddai.
Mae Bws Caerdydd yn gwmni sy'n eiddo i Gyngor Caerdydd.
Mae dros 500 o weithwyr bellach yn cael pleidleisio ar weithredu diwydiannol, gyda'r bleidlais yn cau ar 4 Tachwedd.