Mae pedwar o bobl wedi’u harestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn rhan o adolygiad o lofruddiaeth dynes ar Ynys Môn 32 mlynedd yn ôl.
Cafwyd hyd i Doreen Morris, 64 oed, yn farw yn ei byngalo oedd wedi llosgi ar gyrion Caergybi ym mis Mawrth 1994.
Cafwyd Joseph Carl Westbury yn ddieuog o’i llofruddio yn 1995. Roedd hefyd wedi gwadu torri i mewn i’w chartref ar Mill Lane.
Bu farw o ganlyniad i hunanladdiad ym mis Mai 2016.
Dechreuodd Tîm Adolygu Troseddau Mawr Heddlu Gogledd Cymru adolygu’r achos yn 2024.
O ganlyniad i’r gwaith hwnnw, cafodd dyn a thair dynes, sydd i gyd o ogledd Cymru, eu harestio fore Mercher.
Mae teulu Mrs Morris wedi cael gwybod am y datblygiad.
Dywedodd Mark Pierce, yr uwch swyddog sy’n arwain yr adolygiad: “Mae canlyniadau fforensig, ynghyd ag adolygiad manwl o dystiolaeth tystion, wedi rhoi sail i gyfweld â phedwar o bobl ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder fel rhan o’r adolygiad parhaus o’r achos.
“Drwy gydol yr adolygiad, mae ein meddyliau wedi bod gyda theulu Mrs Morris, ac rwy’n gobeithio bod yr achos hwn yn dangos nad oes ots faint o amser sydd wedi mynd heibio, byddwn yn parhau i chwilio am gyfleoedd newydd i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr a’u teuluoedd.”
Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr achos gysylltu drwy ffonio 101 neu drwy Crimestoppers, gan ddyfynnu Operation Epose, Heddlu Gogledd Cymru