Gwasanaeth Tân y De wedi ymateb 'i bron i 1,000 o danau gwyllt' mewn llai na mis
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i ymateb i bron i 1,000 o danau gwyllt mewn llai na mis yn ystod yr haf.
Dywedodd y gwasanaeth fod eu data dros dro yn dangos eu bod wedi ymateb i 961 o danau gwyllt a thanau gwair rhwng 11 Awst a 1 Medi.
Roedd 115 yn danau gwyllt, gyda 26 yn danau categori tri, sef y categori mwyaf difrifol.
Ar eu prysuraf, roedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymateb i 14 o danau gwyllt yr un pryd, gyda rhai tanau yn llosgi am gyfnodau hir.
Yn ystod mis Gorffennaf, Sir Torfaen oedd y bedwaredd ardal gyda'r allyriadau carbon uchaf fesul cilomedr sgwâr yn y byd, wrth i dân uwchben Blaenafon, a ddechreuodd ar 19 Gorffennaf, losgi am fwy na mis.
Rhwng y dyddiad hwnnw a 1 Medi, fe wnaeth y Gwasanaeth Tân ymateb i 8,466 o alwadau, gyda'r nifer fwyaf ar 13 Awst, sef 1,006 o alwadau.
Digwyddiadau mawr
Cafodd digwyddiadau mawr eu datgan wrth i griwiau ymladd tanau mewn sawl ardal, gan gynnwys Mynydd Llanwynno ger Glynrhedynog, Blaenafon a Chronfa Ddŵr Llangynidr ger Glyn Ebwy. Roedd tân Llanwynno wedi lledaenu dros tua 150 hectar ar ddechrau Awst, tra bod tân Llangynidr wedi effeithio ar tua 400 hectar.
Roedd tân Blaenafon ymhlith y mwyaf difrifol, gan ledaenu dros 4,000 hectar a pharhau am fwy na thair wythnos.
Fe gafodd y Fyddin ei defnyddio i gynorthwyo’r gwasanaethau brys yn ystod mis Awst hefyd.
Roedd sawl lleoliad yng ngogledd Cymru hefyd wedi profi tanau gwyllt dros yr haf.
Ym mis Gorffennaf, cafodd digwyddiad mawr ei ddatgan wrth i griwiau ymladd tanau mewn nifer o ardaloedd, gan gynnwys Mynydd Conwy, y Rhinogydd ger Harlech, Caergybi a Sir y Fflint. Cafodd 36 o eiddo eu gwacáu oherwydd y tân ar Fynydd Conwy.
Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, fynychu cyfarfod brys ynghylch y tanau, gan ddweud y dylid ystyried defnyddio adnoddau arbenigol fel hofrenyddion a chymorth gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a'r Awyrlu Brenhinol, lle bo hynny'n briodol, wrth ymateb i danau gwyllt.
Ar 14 Awst, fe gafodd rhybudd brys cenedlaethol ei anfon i ffonau symudol ledled Cymru a Lloegr wrth i bryderon gynyddu am y perygl o danau gwyllt.
Roedd y neges yn rhybuddio pobl i beidio â chynnau unrhyw beth allai achosi tân, gan gynnwys barbeciws, tanau gwersyll a thân gwyllt.
Bellach mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi datgan bod y digwyddiad mawr ar ben, ond maen nhw'n rhybuddio pobl i barhau'n wyliadwrus a'u bod nhw'n dal i fonitro safleoedd a gafodd eu llosgi.
"Rydym yn parhau i fonitro'r ardaloedd a gafodd eu heffeithio a byddwn yn ymateb i unrhyw newidiadau mewn amodau," meddai'r gwasanaeth.
"Mae'n bosib y bydd cymunedau'n parhau i brofi mwg gan rai safleoedd tanau gwyllt am gyfnod wrth i rai ardaloedd barhau i fudlosgi."
Ychwanegodd y gwasanaeth eu bod yn parhau i ymchwilio ar y cyd â Heddlu Gwent i adroddiadau o danau'n cael eu cynnau'n fwriadol.
Roedd swyddogion yn credu bod tanau wedi’u cynnau’n fwriadol ar Fynydd Llanwynno yn Rhondda Cynon Taf.
'Diolch'
Yn dilyn gwaith y Gwasanaeth cyfan, ynghyd â chefnogaeth partneriaid gan gynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, contractwyr, ffermwyr a thirfeddianwyr, mae Dirprwy Brif Swyddog Tân Adam Openshaw wedi diolch i'r holl asiantaethau am eu gwaith dros y misoedd diwethaf.
"Mae pobl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi dangos dewrder a phroffesiynoldeb anhygoel wrth gadw’r cyhoedd yn ddiogel. Roedd delio â’r tanau gwyllt ar draws y rhanbarth yn rhan o ymateb amlasiantaethol ac, ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, hoffwn ddiolch o galon i bob un ohonoch," meddai.
“Mae’r proffesiynoldeb a ddangoswyd gan yr holl asiantaethau partner wedi bod yn drawiadol ac i’w groesawu, ac mae’r parodrwydd i’n cefnogi wrth i ni ddelio â’r her enfawr hon wedi bod yn gwbl eithriadol.”