Pedwar wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth ar ôl i faban newydd-anedig gael ei thrywanu i farwolaeth

Holywell Heights

Mae pedwar person wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth ar ôl i faban oedd newydd gael ei geni gael ei thrywanu i farwolaeth yn Sheffield.

Mae disgwyl i ddau ddyn a dwy ddynes ymddangos yn y llys fore Mercher ar gyhuddiad o lofruddiaeth, achosi neu alluogi marwolaeth plentyn a gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy gymryd camau i guddio lladd y baban.

Mae merch 15 oed, nad oes modd ei henwi oherwydd ei hoedran, wedi cael ei chyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Wincobank yn Sheffield fore Sul ar ôl adroddiadau am bryder am ddiogelwch baban.

Roedd swyddogion wedi chwilio mewn eiddo ar Holywell Heights a darganfod y baban.

Fe wnaeth y baban farw o glwyfau trywanu, yn ôl canfyddiadau'r prawf post-mortem.

Dywedodd yr heddlu fod Andrea Skopova, 20 oed, Peter Horvath, 19 oed, Peter Horvath, 38 oed, a Nina Horvathova, 37 oed, wedi eu cyhuddo o dair trosedd, gan gynnwys llofruddiaeth, nos Fawrth.

Mae'r pedwar ohonynt a'r ferch 15 oed yn cael eu cadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddynt ymddangos yn Llys Ynadon Sheffield ddydd Mercher.

Cafodd dwy ddynes, 26 a 37 oed, eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac maen nhw wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad.

Dywedodd Prif Arolygydd Ditectif Heddlu De Swydd Efrog, Tom Woodward: “Mae hwn yn gam sylweddol yn ein hymchwiliad i’r amgylchiadau trasig a arweiniodd at farwolaeth y ferch fach hon.

“Hoffwn ddiolch i’n cymunedau, sydd, rwy'n gwybod, wedi cael eu heffeithio’n ddwfn gan y digwyddiad trawmatig hwn, am ein cefnogi wrth i ni weithio drwy’r ymchwiliad cymhleth.

“Byddem yn gofyn i’r cyhoedd beidio â dyfalu na chyhoeddi gwybodaeth ar-lein am yr achos hwn tra bod y broses gyfreithiol yn mynd rhagddi. 

"Mae diogelu uniondeb y broses cyfiawnder troseddol yn hanfodol er mwyn i ni sicrhau cyfiawnder i’r ferch fach hon.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.