Iran yn ymosod ar dargedau America
Mae Iran yn dweud eu bod wedi tanio taflegrau a dronau at rai o dargedau America ar draws y Dwyrain Canol.
Daw hyn ar ôl i luoedd America ail-ddechrau ymosodiadau o’r awyr ddydd Mawrth.
Yn ôl Iran, fe wnaeth lluoedd America ladd pump o bobl ac fe gafodd mwy na 50 eu hanafu mewn seremoni briodas yn ne’r wlad.
Mae lluoedd milwrol America yn dweud eu bod yn ymwybodol o’r adroddiadau ond nad ydynt byth yn targedu sifiliaid.
Mae America yn dweud bod yr ymosodiadau wedi digwydd yn sgil “ymdrechion diweddar i ymosod” gan Iran ar longau masnachol yng Nghulfor Hormuz ac ar luoedd America yn y rhanbarth.
Fe wnaeth Iran daro’n ôl gan dargedu safleoedd Americanaidd yng ngwlad yr Iorddonen.
Dywedodd lluoedd yr Iorddonen eu bod wedi dinistrio 10 o’r taflegrau a bod tri arall wedi syrthio mewn ardaloedd heb boblogaeth ddwys.
Fe ddywedodd byddin Kuwait eu bod hefyd wedi ymateb i daflegrau gan Iran ddydd Mercher, ac roedd ffrwydradau i’w clywed yn Bahrain.
Daw’r ymosodiadau diweddar ar ôl i America ddechrau ymosod eto ar Iran am y tro cyntaf ers mis Gorffennaf.
