'Tor calon' wrth i Wasanaeth Rhywedd Cymru oedi llawdriniaethau
Mae gwasanaeth newid rhywedd yn wasanaeth gofal iechyd - dyna neges un claf sydd newydd glywed na fydd eu llawdriniaeth yn mynd yn ei blaen.
Roedd Sion Jewell, 29 oed o Lanfairpwll, yn gobeithio cael y driniaeth yr wythnos ddiwetha, ond fe glywon nhw na fyddai hynny'n digwydd.
Fe ddaeth hynny wrth i Wasanaeth Rhywedd Cymru oedi llawdriniaethau, gan fod y Bwrdd Iechyd sy'n gyfrifol am y rheini yn codi "pryderon" ynghylch nifer yr achosion newydd.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mae'r cyfraddau yng Nghymru yn uwch na'r rheini yn Lloegr.
"Oedd fy nhriniaeth i fod ar y 28ain o fis Awst a wnes i ffeindio allan 24 awr yn gynt bod o ddim yn mynd i ddigwydd o gwbwl." meddai Sion.
"Wnaeth o gael ei ganslo completely. Nid postponement, canslo."
Roedd Sion wedi bwriadu cymryd y cam yma ers yn 11 oed.
"Dwi'n heartbroken, completely torri calon. Dwi'n meddwl am y bobol sy' 'di aros yn hirach na fi, 'dw i di bod yn aros pum mlynedd, mae rhai ers dros ddeg."
Mae'n dweud mai'r Gwasanaeth Rhywedd oedd wedi ffonio a dweud na allai'r llawdriniaeth ddigwydd o dan ofal y Gwasanaeth Iechyd.
'Byw bywyd arall'
Y cam nesa, meddai Sion, fydd mynd yn breifat.
"Dwi'n mynd i gael y llawdriniaeth y flwyddyn yma, regardless o be mae'r bobol mae'n ddeud, dwi yn mynd yn breifat, dwi'n trio cael y pres yn barod. Ar y funud dwi'n byw bywyd arall, dwi'm yn byw bywyd fy hun."
"Dwi'n flin, dwi'n upset, os dwi'm yn neud o rwan, fydda i ddim yma. Ga'i fod yn onest efo chi, fydda'i ddim yma."
"Dwi efo cymaint o dysphoria, dwi ddim yn gallu cymdeithasu, a gwneud petha' fydda person 29 normal yn gallu'i neud."
Ychwanegodd Sion eu bod yn poeni "y bydd pobol yn lladd eu hunain dros hyn."
O gael y driniaeth, "Faswn i'n gallu nofio yn y môr, petha sy'n rhoi cymaint o joy i bobol. Gallu mynd i ddawnsio, nofio a gwneud beth bynnag dwi'n gallu."
Mewn llythyr at gleifion ddydd Gwener diwethaf, mi esboniodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sy'n rhedeg y gwasanaeth cenedlaethol, fod yna gais i "oedi atgyfeiriadau a llawdriniaethau cadarnhau rhywedd ... tra bod adolygiad annibynnol yn cael ei wneud."
Fe ddywedodd y bwrdd fod hyn "yn sgil pryderon bod nifer sylweddol uwch o bobol yn cael eu cyfeirio o'r gwasanaeth Cymreig o'i gymharu ag un Lloegr."
Yn ôl Reform UK yng Nghymru, mae’n gwneud synnwyr i oedi cyfeirio pobol am driniaeth ond bod “angen gwneud mwy er mwyn sicrhau bod adolygiad cynhwysfawr o’r gwasanaeth.”
Galw am ymchwiliad annibynnol mae’r Ceidwadwyr Cymreig.
Mae Matthew Jones yn Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru ac mae’n “siomedig fod y gwasanaeth wedi ildio i bwysau allanol.” Mae’n dweud y dylai llawdriniaethau ail-ddechrau cyn gynted â phosib.
Mae Llywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd yn cydnabod y pryderon posib i gleifion a theuluoedd, a bydd rhannau eraill o'r gwasanaeth yn parhau, gan gynnwys cefnogaeth therapi hormonau a chefnogaeth seicolegol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae Gweinidog y Cabinet yn deall pryderon bobl y mae'r penderfyniad hwn wedi efffeithio arnyn nhw, ac yn disgwyl i'r bwrdd iechyd a GIG Cymru i ddarparu'r gefnogaeth briodol, ac i flaenoriaethu unrhyw gamau angenrheidiol sydd angen eu cymryd."
Er bod Sion yn derbyn y bydd "tensiwn o bob ochor" ar driniaeth newid rhywedd ac nad ydy o'n bwnc du a gwyn, "dyfodol fi rŵan ydy dal bod yn draws, a dal bod yn anneuaidd, a dal i fyw a dal i fynd," meddai.
"Mae'r llawdriniaeth o'n i'n mynd i gael yn gender affirming care, ac mae hwnna yn health care, ac yn suicide prevention," ychwanegodd.