Sir Benfro: Bachgen 15 oed yn parhau ar goll wedi i'r chwilio ddod i ben

Gwylwyr y Glannau Angle, Sir Benfro

Mae bachgen 15 oed yn parhau ar goll ar ôl mynd i drafferthion yn y môr oddi ar arfordir Sir Benfro.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod yr ymateb amlasiantaeth wedi dod i ben a bod teulu’r bachgen wedi cael gwybod am y penderfyniad.

Roedd y bachgen, sy’n dod o ardal Sir Efrog, ar ei wyliau pan aeth i drafferthion yn y dŵr ym Marloes ddydd Sul.

Cafodd yr heddlu gais am gymorth gan Wylwyr y Glannau yn dilyn adroddiad bod tri o bobl mewn trafferthion.

Llwyddodd dau ohonyn nhw i achub eu hunain a dychwelyd yn ddiogel i’r lan, ond mae’r bachgen yn parhau ar goll.

Bu timau o Heddlu Dyfed-Powys, Gwylwyr y Glannau a’r RNLI yn chwilio o’r awyr, ar y môr ac ar dir cyfagos.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod wedi treulio dros 22 awr yn chwilio yn y dŵr oddi ar ardal Marloes.

Roedd hofrennydd, cychod Gwylwyr y Glannau, yr heddlu a sawl cwch masnachol yn rhan o’r ymdrech.

Bu’r timau’n chwilio rhwng Aberllydan a Phenrhyn Santes Ann, gan gynnwys ynysoedd Sgomer a Sgogwm, ac yn y dŵr ym Marloes.

Daeth y chwilio i ben am 19:30 ddydd Llun.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod eu meddyliau gyda theulu’r bachgen, sy’n cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau Angle: “Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’n criw sydd wedi dangos ymroddiad aruthrol dros y ddau ddiwrnod diwethaf, a diolch yn fawr iawn i Wylwyr y Glannau Aberdaugleddau am eu cydlyniad a’u cefnogaeth wych yn yr hyn sydd wedi bod yn ddigwyddiad hir a blinedig i’n criw.

“Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau’r nofiwr yn ystod yr amser anodd hwn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.