Andy Burnham yn addo ‘newid sylweddol’ yn ei araith gyntaf fel Prif Weinidog
Mae Andy Burnham wedi addo “newid sylweddol” i fynd i’r afael â’r economi a’r argyfwng costau byw wrth iddo annerch Tŷ’r Cyffredin am y tro cyntaf ers dod yn Brif Weinidog.
Dywedodd nad yw Prydain “lle byddai unrhyw un ohonom ni’n dymuno iddi fod” a bod bywyd yn rhy ddrud ac yn rhy anodd i ormod o bobl.
“Pan mae’n dod at y materion mwyaf sy’n wynebu’r wlad, yr economi a’r argyfwng costau byw, mae pobl yn chwilio am newid llawer mwy sylweddol,” meddai.
“Dyna gafodd ei addo yn ein maniffesto a dyna fydda i’n ei gyflawni.”
Dywedodd y byddai mwy o reolaeth gyhoeddus dros wasanaethau hanfodol, ynghyd â rhoi mwy o rym i gymunedau, yn ganolog i gynlluniau ei Lywodraeth ar gyfer twf economaidd.
Cymru a datganoli
Yn ystod ei araith, dywedodd Mr Burnham ei fod wedi ymestyn ei gynnig ar ddatganoli lleol at Brif Weinidogion Cymru a’r Alban pan wnaeth gyfarfod â nhw dros yr haf.
Dywedodd ei fod wedi ymestyn cynnig i drafod model lleol o ddatganoli at Brif Weinidogion Cymru a’r Alban, yn ogystal â Phrif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon.
“Fel y gwnaethon nhw nodi’n gywir, mae eu sefyllfaoedd nhw’n wahanol, ond mae diddordeb mewn sut allai model lleol o ddatganoli weithio ym mhob un o wledydd y DU,” meddai.
Ni roddodd ragor o fanylion am ba bwerau allai gael eu datganoli yng Nghymru.
Gan gyfeirio at ei ymweliad â Phort Talbot yr wythnos diwethaf, addawodd Mr Burnham y byddai ei Lywodraeth yn “gwarantu y bydd dur yn parhau i gael ei gynhyrchu yn ne Cymru am genedlaethau i ddod”.
Dywedodd fod angen i’r DU reoli newid diwydiannol yn well nag yn y gorffennol, gan ychwanegu: “Mae angen i ni wneud iddo weithio y tro hwn yn ne Cymru.
“Fe ddywedais hynny wrth yr undebau llafur yr wythnos diwethaf, fe ddywedais hynny wrth arweinyddiaeth Tata, ac fe’i dywedaf wrth yr Aelod Anrhydeddus yn y Tŷ hwn: fe wnawn ni i hynny ddigwydd.”
Dywedodd hefyd ei fod wedi gofyn i No 10 North ddechrau gweithio gyda Chyngor Cernyw a’i chwe AS ar gytundeb datganoli, “gyda neu heb faer etholedig”.
Dywedodd ei fod yn ymestyn y cynnig i bob rhan o Loegr sydd heb bwerau datganoledig, mewn ymdrech i osgoi creu Lloegr “ddwy haen” rhwng ardaloedd sydd â maer rhanbarthol a’r rheini sydd heb un.
‘Mwy o rym i bob côd post’
Dywedodd Mr Burnham y byddai’n defnyddio’r hyn y mae wedi’i ddysgu wrth arwain Manceinion er mwyn ceisio sicrhau twf economaidd ym mhob rhan o’r DU.
“Mae arwain Greater Manchester wedi rhoi theori glir i mi am dwf,” meddai.
“Fe fydda i’n ei defnyddio ym mhob rhan o’r DU, gan ddysgu o’r hyn sydd wedi’i gyflawni yn Greater Manchester.”
Wrth gloi ei araith, dywedodd y byddai ei Lywodraeth yn rhoi “llefydd yn gyntaf yn hytrach na phleidiau yn gyntaf”.
“Fe allwn ni wneud y degawd nesaf yn well na’r un ddiwethaf,” meddai.
“Fe allwn ni wella rhagolygon ein holl bobl a’n llefydd. Fe allwn ni roi mwy o rym i bob côd post.
“Fe allwn ni adael i Brydain gredu eto. Fe allwn ni ddod â gobaith yn ôl.”
‘Bod yn blaen am yr hyn aeth o’i le’
Dywedodd Mr Burnham fod angen i Brydain fod yn “blwmp ac yn blaen am yr hyn aeth o’i le” dros y pedwar degawd diwethaf.
Beirniadodd ddad-ddiwydiannu a phreifateiddio yn ystod yr 1980au, yn ogystal ag effaith cyni a Brexit ar ardaloedd y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr a Llundain.
“O’r 1980au ymlaen, fe gymerodd y wlad hon gyfres o droeon anghywir,” meddai.
“Cafodd grym gwleidyddol ei ganoli, grym economaidd ei breifateiddio a’r wlad ei dad-ddiwydiannu.
“Yna fe ddaeth cyni, gan wagio cynghorau o’u gallu i weithredu er mwyn gwrthdroi hyn, ac fe wnaeth Brexit waethygu’r difrod.”
Dywedodd fod y polisïau hyn, ymhell o alluogi pobl i “adennill rheolaeth”, wedi cymryd rheolaeth o ddwylo cymunedau ar hyd a lled Prydain.
“Os nad ydym ni’n blwmp ac yn blaen am yr hyn aeth o’i le, fyddwn ni ddim yn newid pethau,” meddai.
Cyfeiriodd at benderfyniad ei Lywodraeth i dorri TAW ar filiau trydan, yn ogystal â thorri trethi busnes ar gyfer tafarndai, clybiau cymdeithasol a lleoliadau cerddoriaeth yn Lloegr.
Rheolaeth gyhoeddus
Dywedodd y Prif Weinidog y byddai mwy o reolaeth gyhoeddus dros wasanaethau a chyfleustodau hanfodol yn ganolog i gynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer twf economaidd.
Disgrifiodd ddiwydiant dŵr Prydain fel “cofeb sy’n gollwng” i’r ffordd y cafodd gwasanaethau eu rhedeg er budd preifat yn hytrach na’r cyhoedd.
Dywedodd fod gormod o ardaloedd wedi wynebu problemau gyda chyflenwadau dŵr yn ystod yr haf oherwydd diffyg capasiti mewn cronfeydd, a bod y diwydiant twristiaeth wedi’i niweidio gan achosion o garthion yn cael eu rhyddhau.
Bydd cynllun 10 mlynedd y Llywodraeth ar gyfer Prydain, sydd i’w gyhoeddi yn ddiweddarach eleni, yn cynnwys cynigion ar gyfer “rheolaeth gyhoeddus gryfach” dros wasanaethau hanfodol, meddai.
Ni nododd sut y byddai’r cynigion yn berthnasol i Gymru, lle mae’r rhan fwyaf o bolisi dŵr wedi’i ddatganoli.
Cyhuddodd arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch, y Prif Weinidog o “fyw yn y gorffennol”.
Yn ystod eu cyfnewid cyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd: “Mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn ei ddatganiad bod popeth wedi mynd o’i le ers yr 1980au, ac mae’n dal i gwyno am Margaret Thatcher.
“Mae’n byw yn y gorffennol ac mae eisiau mynd â ni’n ôl i’r 1970au.”
Dywedodd fod ei “ddamcaniaeth am dwf yn gwbl anghywir”, gan ei gyhuddo o gredu y byddai gwariant ychwanegol gan y Llywodraeth yn gwneud pawb yn gyfoethocach.
Rhybuddiodd Mrs Badenoch fod bod yn Brif Weinidog yn “swydd wahanol iawn” i fod yn faer Greater Manchester, gan feirniadu penderfyniadau’r Llywodraeth ar ryddhau carcharorion yn gynnar, gwariant amddiffyn ac ymfudo.
“Alla’r wlad hon ddim fforddio Llywodraeth sy’n gwyro i bob cyfeiriad,” meddai.
“Os yw e eisiau bod yn wahanol i’w ragflaenydd ac eisiau gwireddu’r weledigaeth optimistaidd y mae’n ei chyflwyno, mae’n rhaid iddo ddechrau cymryd y swydd hon o ddifrif.”
Mynnodd Mr Burnham fod penderfyniadau’r 1980au wedi gadael etifeddiaeth y mae’r wlad “yn dal i frwydro i’w gwrthdroi”.
Cop31
Cadarnhaodd Mr Burnham hefyd y byddai’n mynychu uwchgynhadledd hinsawdd Cop31 yn Nhwrci ym mis Tachwedd.
Gan gyfeirio at y llifogydd dinistriol ar y ffin rhwng Nepal a Tsieina, dywedodd: “Dyma sut olwg sydd ar yr argyfwng hinsawdd.”
Ychwanegodd: “Mae’n debyg ein bod ni newydd brofi’r haf poethaf ar gofnod. Bydd y Llywodraeth hon yn wynebu her yr hinsawdd.”
