Hwyliwr 17 oed o Geredigion wedi’i ddewis i dîm ieuenctid Prydain
Ar ôl creu argraff ym mhencampwriaethau Prydain yn Weymouth fis Gorffennaf, mae gŵr ifanc 17 oed o Geredigion wedi ei ddewis i dîm hwylio ieuenctid Prydain.
Dros y misoedd nesaf bydd Steffan Williams o Gei Newydd yn derbyn hyfforddiant arbenigol, yn mynd i wersylloedd hyfforddi ac yn cystadlu mewn pencampwriaethau ar draws y byd fel rhan o’r llwybr datblygu.
Yn ddiweddar bu’n cynrychioli Prydain ym mhencampwriaeth ieuenctid y byd yn Aarhus yn Denmarc. Yno roedd dros 300 o hwylwyr ifanc gorau’r byd yn cystadlu.
“Ces i cwpwl o rasys rili da… des i’n ail rownd un o’r marks oedd yn eitha cool,” meddai wrth Newyddion S4C.
Bellach mae e nôl wrth ei waith yng Nghanolfan Chwaraeon Dŵr Ceinewydd, yn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o hwylwyr ifanc. Yma y cafodd ei flas cyntaf o hwylio, yn 8 oed.
“Fi’n joio gweithio yma gweld pobl ifanc yn dod trwyddo mewn i chwaraeon mae’n eitha cool”
Dair blynedd ers dechrau rasio, mae Steffan nawr yn aelod o dîm ieuenctid Prydain, cam arwyddocaol yn y llwybr datblygu tuag at hwylio elît ac olympaidd.
Dros y misoedd nesaf, bydd yn manteisio ar yr hyfforddiant gorau, gwersylloedd ymarfer arbenigol a chynllun iechyd a ffitrwydd o’r safon uchaf.
“Dros y gaeaf nawr dwi’n meddwl bod chwech camp gyda ni - ni’n mynd i Malta, Ffrainc, Weymouth, Pwllheli - ie, ni’n mynd dros y lle i gyd gyda’r hwylio ‘ma!" meddai.
Ac yn gefn iddo mae ei deulu sy’n ei gefnogi bob cam o’r daith.
Meddai ei dad, Huw Williams: “Ni’n falch iawn, a mae e’n haeddu’r llwyddiant achos mae’n gweithio mor galed - mae’n neud lot o waith ar ei dechneg ar y dŵr ond hefyd mae’n gweithio yn galed ar ei ffitrwydd, mae’n nofio ddwywaith yr wythnos, mae’n rhedeg, mae e yn y gym bron bob diwrnod so mae’n rhoi lot o waith caled fewn.”
Yn ogystal â’i ymroddiad i hwylio, mae Steffan hefyd ar ei flwyddyn olaf yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul yn paratoi ar gyfer ei arholiadau Safon Uwch ac yn gobeithio dilyn ôl traed ei dad yn astudio peirianneg forwrol yn Southampton.
Mae fe’n eitha anodd, ond maen nhw wedi neud e’n eitha da.. sdim events ‘da ni trwy arholiadau so maen nhw wedi planio fe yn eitha da”
Ac mae ganddo uchelgais glir: “Bydd yn neis aros yn squad Prydain - gobeithio mynd lan i ILCA 7 a mynd i squad Prydain - yr un go iawn - dim yr un ieuenctid.”
A mae e hefyd yn gobeithio y daw cyfle i gystadlu yn y Gemau Olympaidd:“Ie definitely 2032 fi’n meddwl fi’n mynd amdano - bydd hwnna yn eitha cool!”