AS Caerfyrddin yn galw ar Burnham i ymddiheuro am ‘fisoedd o ofid' i deuluoedd sy'n galaru

Aaron Jones
Aaron Jones

Mae AS Caerfyrddin wedi galw ar y Prif Weinidog i ymddiheuro am “fisoedd o ofid” i deuluoedd sy'n galaru yn sgil newidiadau i'r cynllun i ryddhau carcharorion yn gynt. 

Dywedodd AS Plaid Cymru dros Gaerfyrddin, Ann Davies, fod y teuluoedd yma yn cynnwys teulu Aaron Jones o Sir Gaerfyrddin a fu farw mewn gwrthdrawiad yn 2024.

Bu farw Aaron Jones o Lanpumsaint ddeuddydd cyn y Nadolig ar ôl cael ei daro gan gar tra oedd yn cerdded ar ffordd wledig gyda'i gi.

Ym mis Mawrth eleni, fe gafodd Daniel Wyke o Gaerfyrddin ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner o garchar am achosi ei farwolaeth.

Fe dderbyniodd gweddw Aaron Jones, Lisa, lythyr oedd yn dweud y gallai dedfryd Daniel Wyke gael ei lleihau dan Ddeddf Dedfrydu 2026, meddai AS Plaid Cymru, Ann Davies.

Ond ar ddiwedd mis Awst, dywedodd Mr Burnham y byddai’r Llywodraeth yn eithrio carcharorion o’r newidiadau i ddedfrydau os oedden nhw wedi’u carcharu am droseddau fel dynladdiad, achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, ac achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn.

Yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin, gofynnodd Ann Davies, AS Caerfyrddin, a oedd y Prif Weinidog am ymddiheuro am y boen a achoswyd cyn y "tro pedol".

“Daw hyn ar ôl misoedd o ofid i deuluoedd fel fy etholwr Lisa Jones,” meddai.

“A fydd y Prif Weinidog nawr yn ymddiheuro i’r dioddefwyr a’r teuluoedd sydd wedi wynebu gofid sylweddol drwy gydol y broses hon?” gofynnodd.

“A all e hefyd roi sicrwydd iddyn nhw na fydd y Llywodraeth yn newid ei meddwl am hyn, fel mae Llafur wedi’i wneud o’r blaen?”

Atebodd Mr Burnham: “Dw i’n deall eu poen.”

“Fe wnes i wrando ar yr hyn roedden nhw’n ei ddweud. Pan ddes i i’r swydd, fe wnes i ofyn am newidiadau i’r cynllun rhyddhau cynnar, ac fe wnaethon ni eithrio troseddau treisio, meithrin perthynas amhriodol a throseddau rhywiol yn erbyn plant.

“Ond ar ôl clywed y lleisiau hynny, doeddwn i ddim yn fodlon ac fe wnes i bwyso ar y system i fynd ymhellach.

“O ganlyniad i hynny, rydyn ni’n mynd ymhellach ac yn eithrio achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus a throseddau dynladdiad eraill.

“Felly, dw i’n gobeithio y gall hi nawr roi’r sicrwydd hwnnw i’r teulu, a rhoi fy nymuniadau gorau iddyn nhw hefyd.

“Dw i’n credu ein bod ni’n dod i’r penderfyniad cywir, ac fe alla i roi sicrwydd iddi y bydd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Alex Norris, yn cadw llygad agos ar y sefyllfa, er mwyn sicrhau nad ydyn ni byth yn y sefyllfa hon eto.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.