Llanarth: Cymeradwyo tai newydd - ond efallai na fydd neb â hawl byw ynddyn nhw nes 2029

Dyma lun o'r tai arfaethedig ar y safle ym mhentref Llanarth
LLanarth 17 tai cynllunio

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cymeradwyo cais i adeiladu 17 o dai fforddiadwy ym mhentref Llanarth - ond mae amod yn golygu ei fod yn annhebygol y bydd unrhyw un yn byw ynddyn nhw tan 2029.

Er gwaethaf gwrthwynebiad gan Gyngor Cymuned Llanarth, fe fydd 17 o dai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu ar safle yn y pentref yng Ngheredigion.

Roedd y cynghorwyr cymunedol yn poeni am orddatblygu, diogelwch y brif ffordd a’r isadeiledd carffosiaeth.

Mewn e-bost o wrthwynebiad, dywedodd Cyngor Cymuned Llanarth y byddai y datblygiad yn rhoi “straen ychwanegol ar y system garffosiaeth bresennol” y pentref.

Ychwanegon nhw fod trigolion yn Gilfachreda, pentref rhwng Llanarth a Cheinewydd, yn “dal i brofi problemau gyda’r system [garffosiaeth] gyfredol sydd heb eu datrys".

Yn yr un e-bost ychwanegodd y Cyngor Cymuned fod y pentref “eisoes wedi profi datblygiadau tai sylweddol a does dim modd i’r isadeiledd lleol... ymdopi â’r twf yma".

Wrth ymateb yn y cyfarfod, dywedodd swyddogion cynllunio fod Dŵr Cymru wedi argymell gosod amodau ar y cais.

Dywedodd Dŵr Cymru fod yna ddigon o le yn y rhwydwaith garffosiaeth ar gyfer datblygiad o’r fath ond bod angen gwneud gwaith i wella’r Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff yn Llanina.

Yn sgil hynny, ni fydd hawl gan neb breswylio yn y cartrefi tan fod y gwaith yma wedi ei gwblhau erbyn 31 Rhagfyr 2028.

Y Cyfarfod Cynllunio

Cafodd y cais am 17 o dai fforddiadwy i’w rhentu’n gymdeithasol ei gyflwyno gan gymdeithas dai Wales and West Housing sydd yn arbenigo mewn tai fforddiadwy.

Ar ôl derbyn sêl bendith gychwynnol am 12 o dai a dau o’r rheiny yn rhai fforddiadwy ym mis Mawrth 2024, mae’r cynllun yma yn holi am bum tŷ ychwanegol ac i bob un fod yn rhai fforddiadwy.

Yng Nghyfarfod Cynllunio Cyngor Sir Ceredigion a gynhaliwyd ddydd Iau 11 Mawrth, nododd y Cynghorydd lleol dros ward Llandysilio a Llangrannog, Gareth Lloyd bryderon y Cyngor Cymuned.

“Dw i’n sylwi bod y Cyngor Cymuned wedi ymateb gyda concerns. Yr hyn dw i’n ei glywed yn lleol yw eu bod nhw’n teimlo fod y cynnydd o bron hanner cant y cant yn dipyn o gynnydd,” meddai.

Yn ôl y Swyddog Cynllunio, mae’r datblygiad diweddaraf yn leihad yn nifer yr ystafelloedd - o 41 i 33 - ac yn dai llai o ran maint na’r cais gwreiddiol.

Codwyd pryderon hefyd am ddiffyg palmant yn cysylltu’r ystâd o dai arfaethedig â’r brif ffordd yn Llanarth.

Dywedodd y Swyddog Cynllunio fod adran Priffyrdd wedi asesu’r sefyllfa ac yn hapus gyda’r hyn sydd wedi ei gynnig yn y cais.

Cytunwyd yn unfrydol i gefnogi’r cais cynllunio.

Llun gan: Dylunwyr Tai Wales and West Housing

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.