Gwynedd: Pwyllgor i drafod cynlluniau ar gyfer ysgol gynradd newydd ym Montnewydd
Bydd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd yn ystyried cynlluniau ar gyfer adeiladu ysgol newydd mewn pentref yng Ngwynedd.
Mae’r cais yn cynnwys cynlluniau i ddymchwel adeiladau presennol Ysgol Bontnewydd a’r ganolfan gymunedol ar y safle, gyda'r bwriad o godi ysgol newydd a chanolfan gymunedol newydd yn eu lle.
Bydd y cynllun yn cael ei drafod gan y pwyllgor cynllunio ddydd Llun, ac mae swyddogion wedi argymell ei gymeradwyo gydag amodau.
Daw'r cynlluniau wedi i’r ysgol sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy’r cynllun Her Ysgolion Cynaliadwy.
Nod y fenter yw hyrwyddo adeiladu ysgolion carbon sero net ac annog arloesedd yn y sector addysg yng Nghymru.
Mae tair ysgol ar draws Cymru wedi’u dewis fel rhan o’r cynllun - un yn y gogledd, un yn y canolbarth ac un yn y de.
Bydd yr ysgolion hyn yn cael eu defnyddio fel prosiectau enghreifftiol ar gyfer cynlluniau adeiladu ysgolion yn y dyfodol.
Yn ôl y cynlluniau ar gyfer Bontnewydd, mae adeilad presennol yr ysgol o’r 1970au wedi cyrraedd diwedd ei oes ac nid yw bellach yn darparu amgylchedd addas ar gyfer addysgu.
Mae'r dogfennau hefyd yn nodi fod "estheteg fodern" wedi ei datblygu yn y cynllun ar gyfer ysgol newydd i roi "hunaniaeth newydd" i Ysgol Bontnewydd a’r ganolfan, tra’n parchu hanes y pentref.
Bydd y datblygiad ym Montnewydd yn cynnwys gwaith tirlunio, ffordd fynediad newydd, mannau parcio, cysgodfeydd beiciau, ac offer chwarae awyr agored.
Mae’r cynllun yn cynnig ysgol gynradd Gymraeg deulawr ar gyfer 210 o ddisgyblion, ynghyd â darpariaeth ar gyfer y Cylch Meithrin a disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd canolfan gymunedol gyda chyfleusterau newid hefyd yn rhan o’r prosiect.
Yn ôl y dogfennau cynllunio, bydd yr adeilad wedi’i ddylunio yn unol ag egwyddorion cynaliadwyedd er mwyn lleihau’r galw am ynni.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, cafwyd tri ymateb. Roedd rhai trigolion yn gefnogol iawn i’r cynllun ac yn croesawu’r buddsoddiad yn y gymuned leol.
Ond cafodd rhai pryderon eu codi am leoliad tanc dŵr mawr, yn ogystal â materion yn ymwneud â mynediad i’r ysgol.