Y Prif Weinidog i gadeirio ei gyfarfod Cabinet cyntaf

Cabinet Llywodraeth Cymru

Bydd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth yn cadeirio ei gyfarfod Cabinet cyntaf ddydd Llun.

Cafodd Mr ap Iorwerth ei gadarnhau yn swyddogol yn Brif Weinidog newydd Cymru yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth diwethaf.

Ddydd Mercher diwethaf, fe gyhoeddodd pa ASau Plaid Cymru fydd yn aelodau o'i gabinet cyntaf.

Ym maniffesto ei blaid yn ystod ymgyrch yr etholiad, dywedodd Plaid Cymru mai eu blaenoriaethau oedd torri amseroedd aros yn y gwasanaeth iechyd, cefnogi teuluoedd gyda chostau gofal plant, codi safonau mewn addysg, datgloi potensial economi Cymru a cheisio sicrhau bargen decach gan San Steffan,

Cyn y cyfarfod Cabinet, dywedodd y Prif Weinidog: "Mae’r Llywodraeth hon yn llywodraeth weithredol, yn llywodraeth i bawb ac yn llywodraeth sy’n dod â syniadau newydd. Mae'r gwaith caled bellach wedi dechrau.

"Fel Prif Weinidog, rwy’n benderfynol o roi diwedd ar weithio ar wahân a dileu dyblygu diangen ar draws y llywodraeth. Bydd y Cabinet hwn yn gweithio fel un tîm, gyda gweinidogion yn gweithio gyda'i gilydd er budd pobl Cymru.

"Mae pobl Cymru yn disgwyl llywodraeth sy’n gwrando, sy’n sefyll dros Gymru ac sy’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau canlyniadau. Dyna’n union y mae’r Cabinet hwn yn benderfynol o’i wneud."

Dyma restr aelodau ei gabinet:

  • Prif Weinidog – Rhun ap Iorwerth
  • Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb – Sioned Williams
  • Gweinidog Cabinet dros Gyllid – Elin Jones
  • Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon – Heledd Fychan
  • Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad – Dafydd Trystan Davies 
  • Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal – Mabon ap Gwynfor 
  • Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni – Adam Price 
  • Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg – Anna Brychan
  • Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd – Llŷr Gruffydd
  • Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio – Siân Gwenllian
  • Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol – Nerys Evans
  • Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod – Delyth Jewell 
  • Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth – Mark Hooper
  • Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol – Cefin Campbell
  • Darpar Gwnsler Cyffredinol – Elfyn Llwyd


Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn "hyderus y bydd y Cabinet hwn yn dod ag egni newydd, syniadau newydd a chyfeiriad newydd i'r ffordd mae ein cenedl yn cael ei harwain".
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.