Rhybudd am fannau croesi yng ngogledd Cymru wrth i wasanaethau trên i Loegr gynyddu

Gorsaf Deganwy

Mae Network Rail wedi rhybuddio pobl sy’n croesi rheilffyrdd yng ngogledd Cymru i gymryd gofal arbennig wrth i wasanaethau newydd rhwng Cymru a Lloegr ddechrau.

Bydd gwasanaethau ar hyd rheilffordd arfordir gogledd Cymru yn cynyddu tua 50% o ddydd Llun ymlaen.

Bydd y trenau’n teithio ar gyflymder o hyd at 90mya, gan gynyddu’n sylweddol y risg i bobl sy’n defnyddio’r croesfannau, meddai’r corff sy’n rheoli isadeiledd trafnidiaeth y DU.

Mae croesfannau Tŷ Gwyn a Phen Uchaf ym Mhensarn, a Ffordd Sandy a Ffordd Beverley ym Mhrestatyn, ymhlith y croesfannau mwyaf peryglus ar rwydwaith Cymru a’r Gororau, medden nhw.

Yn gynharach eleni, fe ddechreuodd Network Rail waith paratoi yn y ddau leoliad cyn adeiladu pontydd troed newydd. Mae mesurau diogelwch dros dro wedi eu cyflwyno i baratoi ar gyfer yr amserlen estynedig.

Dywedodd Gwyn Rees, Cyfarwyddwr Rhaglen Network Rail Cymru a’r Gororau: “Bydd y gwelliannau hyn i’r amserlen yn hwb mawr i gymunedau ac ymwelwyr ledled gogledd Cymru, gan ddarparu gwasanaethau amlach, gwell cysylltedd a mwy o hyblygrwydd i deithwyr sy’n teithio ar hyd yr arfordir.

“Er mwyn cefnogi’r cynnydd hwn mewn gwasanaethau’n ddiogel, rydym hefyd yn buddsoddi mewn pontydd troed hygyrch newydd ym Mhrestatyn a Phensarn, gan helpu i greu rheilffordd fwy diogel a mwy hygyrch i bobl leol.”

Image
Man croesi Pensarn
Darlun o fan croesi newydd Pensarn

Beth yw’r newidiadau?

Mae’r newidiadau yn cael eu cyflwyno gan Network Rail mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru gyda buddsoddiad o £800 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

  • Bydd trenau o Faes Awyr Manceinion i Landudno bellach yn gwasanaethu Caergybi, gan wella cysylltiadau â gogledd-orllewin Lloegr a gwella cysylltiadau fferi i Iwerddon o Fanceinion.
  • Bydd y gwasanaethau ar wahân bob awr rhwng Wrecsam a Chaer, a rhwng Caer a Crewe, yn cael eu cyfuno’n un gwasanaeth.
  • Bydd y gwasanaeth rhwng Lerpwl a Chaer yn cael ei ymestyn i Landudno.
  • Bydd gwasanaeth Birmingham i ogledd Cymru, gan gynnwys o Faes Awyr Rhyngwladol Birmingham, sydd ar hyn o bryd yn rhedeg bob dwy awr, yn gweithredu i ac o Gyffordd Llandudno, nid Caergybi.
  • Bydd gorsaf y Fali yn arhosfan orfodol ar bob gwasanaeth perthnasol.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru: “Bydd yr uwchraddiadau hanfodol hyn yn ein galluogi i gynyddu nifer y gwasanaethau trên yn saff ar arfordir gogledd Cymru tua 50%.

“Bydd y capasiti ychwanegol hwn yn gwella dibynadwyedd a chysylltedd ledled y rhanbarth, gan gefnogi teithio mwy cynaliadwy a chysylltu cymunedau’n well.

“Fodd bynnag, mae gwasanaethau amlach hefyd yn cynyddu lefel y risg wrth groesfannau gwastad. 

“Rydym yn cefnogi’r cynigion hyn yn llawn, a fydd yn cau croesfannau risg uchel wrth ddarparu gwell hygyrchedd a diogelwch drwy bontydd troed newydd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.