Galw am ohirio cynllun ailgylchu newydd yng Nghymru dros bryderon am deuluoedd bregus
Mae Aelod o'r Senedd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ohirio cyflwyno cynllun ailgylchu newydd, gan rybuddio y gallai gael yr effaith fwyaf ar deuluoedd bregus, pobl hŷn a phobl anabl.
Mae Louise Emery, Aelod o'r Senedd dros Glwyd, hefyd yn pryderu y gallai'r cynllun olygu costau ychwanegol i gynghorau Cymru a'u bod yn colli incwm o ailgylchu.
Bydd y Cynllun Dychwelyd Ernes (Deposit Return Scheme) yn cael ei gyflwyno ar 1 Hydref 2027, gyda defnyddwyr yn talu ernes o 20c ar rai diodydd untro.
Bydd y rhain yn cynnwys poteli plastig PET a chaniau alwminiwm.
Fe fydd modd i ddefnyddwyr gael eu 20c yn ôl drwy ddychwelyd y cynwysyddion i fannau casglu penodol, gyda'r ad-daliad yn cael ei ddarparu drwy daleb neu gerdyn.
Bydd poteli gwydr hefyd yn rhan o'r cynllun, ond ni fydd ernes yn cael ei chodi arnynt am y pedair blynedd gyntaf.
Mae cynlluniau tebyg eisoes ar waith mewn dros 60 o wledydd a rhanbarthau ledled y byd, gan gynnwys 19 o wledydd Ewrop, yn ôl y cwmni ailgylchu TOMRA.
'Arian nad oes gan deuluoedd i sbario'
Mae Ms Emery yn dweud ei bod yn poeni am effaith y cynllun ar deuluoedd yng ngogledd Cymru, yn enwedig y rhai sydd eisoes yn wynebu pwysau ariannol.
"Prynwch becyn o 24 potel o ddŵr ac rydych chi'n gorfod talu £4.80 yn ychwanegol cyn i chi hyd yn oed gyrraedd y car," meddai.
"Edrychwch ar bob eitem yn eich troli a faint mae hynny'n ei ychwanegu at gost eich siopa wythnosol.
"Mae gweinidogion yn sôn am hyn fel ernes y gallwch ei chael yn ôl, ond i lawer o deuluoedd, mae'n arian nad oes ganddyn nhw i'w sbario wrth y til yn y lle cyntaf."
Mae hi hefyd yn pryderu am y rhwystrau y gallai'r cynllun eu creu i bobl hŷn, pobl anabl a'r rhai nad oes ganddynt gar.
"Os ydych chi'n hŷn, yn anabl, neu ddim yn gyrru, mae disgwyl i chi gario bagiau o boteli a chaniau yn ôl i siop er mwyn cael eich arian eich hun yn ôl," meddai.
"A beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n cyrraedd yno a bod y peiriant yn llawn neu wedi torri?
"Dydych chi ddim yn cael eich ernes yn ôl. Mae'n rhaid i chi gario popeth adref eto neu deithio ymhellach i ddod o hyd i beiriant arall sy'n gweithio."
Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd yr aelod cabinet dros yr amgylchedd ar Gyngor Conwy, y Cynghorydd Mike Priestley, y gallai'r cynllun gostio £1 miliwn y flwyddyn i'r awdurdod mewn incwm a fyddai'n cael ei golli.
Ar hyn o bryd, mae cynghorau'n gallu gwerthu deunyddiau sy'n cael eu casglu drwy eu gwasanaethau ailgylchu o'r cartref.
Ond mae Ms Emery yn poeni y gallai'r cynllun newydd leihau'r incwm hwnnw, tra byddai cynghorau'n parhau i wynebu costau prosesu deunyddiau ailgylchu eraill.
Mae hi hefyd wedi codi pryderon ynghylch casglu caniau aerosol, a fyddai'n parhau'n gyfrifoldeb i gynghorau.
"Dydy'r bil hwnnw ddim yn diflannu. Mae'n syrthio ar drethdalwyr cyngor Cymru, ac rydw i eisiau i Lywodraeth Cymru ddweud pwy fydd yn talu amdano," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gydag Exchange for Chang, sydd yn gweithredu'r cynllun, i sicrhau bod y cynllun yn hygyrch ac yn gyfleus i bawb.
"Rydym yn gweithio gydag Exchange for Change i wneud y cynllun yn hygyrch ac yn gyfleus i bawb, gan gynnwys pobl anabl a phobl sy'n gaeth i'w cartrefi," meddai.
"Bydd y cynllun yn lleihau sbwriel, a fydd yn arwain at gostau glanhau is i gynghorau a threthdalwyr.
"Mae gwydr wedi'i gynnwys o'r cychwyn, ond bydd ernes o sero ceiniog arno am bedair blynedd er mwyn rhoi amser i'r diwydiant addasu a chael gwared ar beryglon twyll."
Ychwanegodd y llywodraeth y bydd Exchange for Change yn cyhoeddi rhagor o ganllawiau i gynhyrchwyr a defnyddwyr cyn i'r cynllun ddechrau ar 1 Hydref 2027.
Dywedodd hefyd na fydd cynwysyddion diodydd sy'n rhan o'r cynllun yn destun rhwymedigaethau dyblyg o dan y system cyfrifoldeb cynhyrchwyr.