'Twll enfawr yn fy mywyd pe bai tîm rygbi cadair olwyn Cymru'n dod i ben'

'Twll enfawr yn fy mywyd pe bai tîm rygbi cadair olwyn Cymru'n dod i ben'

Mae merch 17 oed  yn dweud y byddai "twll enfawr" yn ei bywyd pe bai tîm rygbi cadair olwyn pump bob ochr Cymru yn dod i ben oherwydd diffyg cyllid.

Mae Ellie O'Connell o Ben-y-bont ar Ogwr, sydd wedi bod yn chwarae'r gamp ers dwy flynedd, yn dweud bod cynrychioli Cymru wedi trawsnewid ei bywyd.

Ond mae dyfodol y tîm yn ansicr oherwydd diffyg cyllid.

"Os bydd y tîm yn dod i ben, fysa i ddim yn gwybod beth i neud yn mynd ymlaen," meddai Ellie wrth Newyddion S4C.

"Mae'n rhan mor enfawr o fywyd fi nawr. 'Sa i'n gwybod beth fyddai'n neud gyda'r twll enfawr 'na."

Mae Dr Justin Griffiths, sydd yn rhedeg tîm Cymru, yn dweud ei fod ef a'i wraig yn y broses o werthu eu cartref er mwyn gallu parhau i ariannu'r tîm, ar ôl talu'r rhan fwyaf o'r costau eu hunain.

'Lle yn y byd i fi eto'

Mae Ellie yn dweud bod chwarae rygbi cadair olwyn wedi rhoi hyder newydd iddi, ar ôl cyfnod pan oedd hi'n ei chael hi'n anodd i gymdeithasu.

"O'n i'n teimlo fel bod lle yn y byd i fi eto," meddai.

"Cyn i mi ddechrau chwarae rygbi, o'n i ddim rili yn mynd mas. O'n i ddim rili yn cael llawer o hunanhyder. O'n i yn mynd i'r ysgol a mynd adref i wely.

"Ond ar ôl i mi ddechrau chwarae, o'n i'n gweld hyder fi'n tyfu. O'n i'n gweld cryfder fi'n tyfu."

Mae cynrychioli Cymru hefyd wedi bod yn brofiad arbennig iddi, gyda rygbi'n rhan bwysig o fywyd ei theulu.

"Mae'n fraint enfawr i ddechrau chwarae am Gymru," meddai.

"Mae teulu fi i gyd yn dwlu ar rygbi, maen nhw'n dwlu ar unrhyw beth i gael ei wneud ag unrhyw dimau Cymru.

"Mae'n meddwl lot i fi bod fi'n gallu rhannu hynny gyda nhw, ble o'n i ddim o'r blaen oherwydd doedd dim llefydd i fi allu ffitio mewn."

Image
Roedd Ellie yn rhan o'r garfan wnaeth gystadlu ym Mhortiwgal
Roedd Ellie yn rhan o'r garfan wnaeth gystadlu ym Mhortiwgal

Mae rygbi cadair olwyn pump bob ochr yn fersiwn o'r gamp sy'n galluogi pobl ag ystod ehangach o anableddau i gymryd rhan.

Great Britain Wheelchair Rugby (GBWR) yw'r corff sy'n llywodraethu rygbi cadair olwyn yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, ac mae ei bencadlys yn Twickenham, Llundain.

Mae'r corff hefyd yn gyfrifol am ddatblygu rygbi cadair olwyn pump bob ochr, sy'n wahanol i'r fersiwn pedwar bob ochr sy'n cael ei chwarae yn y Gemau Paralympaidd.

Nid yw GWBR yn gysyltiedig gyda thîm 5 bob ochr Cymru.

Cymorth ariannol

Mae pryderon am ddyfodol tîm Cymru oherwydd diffyg cymorth ariannol gan gyrff chwaraeon a Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Dr Justin Griffiths, bydd y gost o redeg y tîm yn cyrraedd cyfanswm o £65,000 yn 2026, gyda'r gost yn debygol o godi i £75,000 y flwyddyn nesaf.

Mae'r costau'n cynnwys teithio i gystadlaethau rhyngwladol a chynnal sesiynau hyfforddi, sydd fel arfer yn digwydd ym Merthyr Tudful.

Dywedodd Justin mai ef a'i wraig sydd wedi talu'r rhan fwyaf o'r costau hyd yma, gyda rhywfaint o gymorth gan noddwyr lleol.

"Rydyn ni yn y broses o werthu ein tŷ ar hyn o bryd er mwyn ariannu'r flwyddyn nesaf," meddai wrth Newyddion S4C.

"Rydyn ni'n benderfynol o barhau â hyn nes bod rhywun yn dweud bod rygbi i bobl anabl yn haeddu mwy o gydnabyddiaeth, a'u bod nhw am fuddsoddi ynddo.

"Dim ond un tŷ sydd gennym ni i'w werthu, felly unwaith y bydd hwnnw wedi mynd, oni bai bod rhywun yn barod i'n helpu'n ariannol, dyw hyn ddim yn gynaliadwy."

Image
Y garfan cyn cystadlu ym Mhortiwgal
Y garfan cyn cystadlu ym Mhortiwgal

Dywedodd Justin nad yw'r tîm wedi derbyn cymorth ariannol gan Undeb Rygbi Cymru, Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru na Chwaraeon Anabledd Cymru.

Mae'n rhybuddio y gallai'r diffyg cyllid olygu na fydd modd i'r tîm barhau yn y dyfodol.

"Byddai hynny'n drueni enfawr, oherwydd rydyn ni am barhau â'r gwaith, nid yn unig er mwyn i'r chwaraewyr gynrychioli eu gwlad, ond hefyd oherwydd y gwaith rydyn ni'n ei wneud mewn gwledydd eraill pan fyddwn ni'n teithio yno," meddai.

Ymateb

Dywedodd Chwaraeon Anabledd Cymru eu bod yn deall rhwystredigaeth Dr Griffiths ynghylch diffyg cyllid a chydnabyddiaeth i'r tîm.

Ond dywedodd y corff nad yw rygbi cadair olwyn pump bob ochr yn gymwys i dderbyn cyllid perfformiad, gan nad yw'n rhan o lwybr cydnabyddedig tuag at y Gemau Paralympaidd na Gemau'r Gymanwlad.

Ychwanegodd eu bod wedi cynnig cyngor a chymorth ymarferol i Justin, ond nad oeddent wedi darparu unrhyw gymorth ariannol i'r tîm.

Dywedodd llefarydd ar ran Chwaraeon Cymru eu bod wedi bod mewn cysylltiad â Dr Griffiths yn y gorffennol ynghylch sefydlu corff llywodraethu cydnabyddedig ar gyfer rygbi cadair olwyn yng Nghymru.

"Mae proses ymgeisio ar waith, ac rydym wedi egluro'r broses honno iddo," meddai'r llefarydd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n annog y tîm i ymwneud yn uniongyrchol â Chwaraeon Cymru.

"Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw swyddogaeth o ran penderfynu a yw camp yn cael ei chyllido, neu a yw'n cael ei chydnabod yn ffurfiol," meddai llefarydd.

Nid oedd Undeb Rygbi Cymru eisiau ymateb i sylwadau Dr Justin Griffiths.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.