Cymru'n curo Japan yng nghyfres WXV
Mae tîm rygbi menywod Cymru wedi curo Japan o 29-5 yn ninas Kumagaya fore dydd Sadwrn yng nghyfres WXV.
Dyma'r ail fuddugoliaeth i dîm Sean Lynn yn erbyn Japan a'r drydedd yn y gystadleuaeth.
Cafodd Cymru ddechrau da i'r gêm gyda thri chais gan Nel Metcalfe, Kelsey Jones ac Amy Williams, gyda Moe Nagaoka yn croesi i'r tîm cartref.
Fe drosodd Lleucu George ddau gais cyntaf Cymru, gan Metcalfe a Jones.
Roedd Cymru ar y blaen 19-5 ar yr hanner cyntaf.
Fe ddechreuodd Cymru'r ail hanner yn gryf gan ychwanegu dau gais arall, un gan Sisilia Tuipolotu a'r ail gais i Williams.
Fe wnaeth Cymru bethau'n anodd i'w hunain gyda dau gerdyn melyn i Keira Bevan a Hannah Dallavalle yn ddiweddarach yn yr ail hanner.
Ond methodd Japan â chymryd mantais ar y sefyllfa, ac fe lwyddodd Cymru i amddiffyn eu llinell gais.
Fe fydd y llwyddiant hwn yn y gystadleuaeth yn sicr o roi hwb sylweddol i Gymru wrth baratoi ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Llun: URC