Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Caersŵs ym Mhowys
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio yn dilyn marwolaeth dyn mewn gwrthdrawiad ym Mhowys.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar ffordd yr A489 ger Caersŵs am tua 10:00 fore dydd Sul, 30 Awst.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng Honda Civic llwydfelyn a cherbyd nwyddau trwm Renault gwyn.
Cafodd y dyn oedd yn gyrru'r Honda Civic ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr.
Bu farw'n ddiweddarach.
Mae ei deulu wedi cael gwybod am y farwolaeth a bydd swyddogion arbenigol yn parhau i'w cefnogi meddai'r heddlu.
Mae'r heddlu bellach yn apelio am unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu ddeunydd fideo o gamera dash-cam neu CCTV a allai eu helpu gyda'u hymchwiliad i gysylltu gan ddyfynu'r cyfeirnod 26*710871