Disgwyl i'r Prif Weinidog Eluned Morgan golli ei sedd yn y Senedd
Mae'n ymddangos bod cyfnod Y Farwnes Eluned Morgan yn Senedd Cymru ar ben, gyda'r disgwyl bod y prif weinidog wedi methu yn ei hymgyrch i gaei ei hethol i un o'r chwe sedd oedd ar gael yn etholaeth Ceredigion Penfro.
Hi oedd chweched prif weinidog Cymru o rengoedd y Blaid Lafur, ac fe gafodd ei thynged ei benderfynu yn Ysgol Bro Teifi yn Llandysul wrth i'r pleidleisiau gael eu cyfrif ddydd Gwener.
Roedd Llafur Cymru'n disgwyl canlyniadau trychinebus wrth i'r etholwyr droi eu cefn ar ganrif o'i goruchafiaeth yng Nghymru, gan ddewis bwrw pleidlais dros Reform UK a Phlaid Cymru.
Cafodd maint y golled ei thanlinellu gan ganlyniadau echrydus i Lafur yn etholiadau lleol Lloegr hefyd.
Bydd y ffaith na oedd prif weinidog diwethaf Llafur yn y Senedd yn gallu sicrhau sedd yno yn golled symbolaidd i'r blaid wrth iddi wynebu cyfnod yn y diffeithwch gwleidyddol.
Cyn y canlyniad roedd darogan o fewn y blaid na fyddai'r canlyniadau'n rhai da i Lafur.
Wrth i'r gorsafoedd pleidleisio gau nos Iau, dywedodd Huw Irranca-Davies, cadeirydd ymgyrch Llafur Cymru a dirprwy’r Arglwyddes Morgan: “Ar ôl blynyddoedd lawer mewn llywodraeth yng Nghymru, a chyda Llafur bellach yn llywodraethu ledled y DU, byddai yna bob amser awyrgylch cryf dros newid a rhwystredigaeth.
“Mae’r pwysau parhaus y mae pobl yn eu hwynebu oherwydd costau byw yn real ac yn cael eu teimlo’n ddwfn. Rydym yn cymryd hynny o ddifrif. Fe wnaethom glywed llawer o negeseuon anodd ar garreg y drws.
“Ac yn y dyddiau nesaf, byddwn yn myfyrio’n ofalus ac yn gwrando ar yr hyn y mae pleidleiswyr yn ei ddweud wrthym...
"Ni fydd unrhyw osgoi. Dim gwyriad. Dim ond penderfyniad i gywiro pethau.”
Ychwanegodd fod yr Arglwyddes Morgan wedi dangos “arweinyddiaeth benderfynol” mewn “cyfnod anodd iawn” i’r blaid.
Mae ffynhonnell ar ran Llafur Cymru yn dweud eu bod yn disgwyl i Eluned Morgan siarad yn Llandysul yn ddiweddarach yn dilyn ei chanlyniad.
Ychwanegodd y blaid nad oes ganddyn nhw y canlyniad terfynol ond "ein bod ni wastad wedi gwybod y byddai'n frwydr anodd ar gyfer Ceredigion Penfro.
"Fe fydd Eluned yn cymryd cyfrifoldeb am y canlyniad yma."