Bachgen yn gwadu ceisio llofruddio athrawes yn Sir Benfro

Ysgol Aberdaugleddau

Yn Llys y Goron Abertawe, mae bachgen 15 oed wedi gwadu cyhuddiad o geisio llofruddio, ar ôl i athrawes gael ei thrywanu mewn ysgol uwchradd yn Sir Benfro. 

Cafodd Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ei rhoi o dan fesurau clo yn hwyr yn y prynhawn ar 5 Chwefror eleni.

Cafodd yr athrawes, Vicky Williams, ei chludo i'r ysbyty cyn gadael yn ddiweddarach y noson honno.

Does dim modd cyhoeddi enw'r bachgen, am resymau cyfreithiol. 

Mae e hefyd yn gwadu iddo achosi anaf yn fwriadol ac anafu'n anghyfreithlon, ond plediodd yn euog i gyhuddiad o fod â chyllell ar dir ysgol. 

Bydd yr achos llawn yn dechrau fis Gorffennaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.