Goruchafiaeth Llafur dros wleidyddiaeth Cymru yn dod i ben

Llafur Cymru

Mae goruchafiaeth hir a hanesyddol y Blaid Lafur dros wleidyddiaeth yng Nghymru ar fin dod i ben, gyda disgwyl mai 10 aelod fydd gan y blaid yn y Senedd.

Roedd gan y blaid 30 o aelodau yn ystod cyfnod y Senedd ddiwethaf. 

Bu Llafur Cymru'n llywodraethu yng Nghymru ers dechrau datganoli 27 o flynyddoedd yn ôl, gyda'r Farwnes Eluned Morgan yr olaf o brif weinidogion y blaid i arwain y wlad.

Hi oedd chweched prif weinidog Cymru o rengoedd y Blaid Lafur, gydag Alun Michael y cyntaf i gael ei benodi i'r swydd yn 1999, hyd at 2000.

Rhodri Morgan ddaeth ar ei ôl, gan aros yn y swydd hiraf - hyd at 2009. Carwyn Jones oedd wrth y llyw o 2009-18, cyn i Mark Drakeford afael yn yr awennau rhwng 2018-2024. 

Cymharol fyr oedd cyfnod Vaughan Gething wrth y llyw, gan iddo gamu i lawr bedwar mis yn unig ar ôl dechrau o achos sgandal am gefnogaeth i'w ymgyrch gan ddyn busnes oedd wedi ei gael yn euog o droseddau amgylcheddol.

Wedi ei gyfnod byr wrth y llyw, fe wnaeth Eluned Morgan gamu i'r swydd yn 2024.

Bellach mae disgwyl i Eluned Morgan golli ei sedd yn y Senedd ac mae'n ymddangos bod ei hymgyrch i gael ei hethol i un o'r chwe sedd oedd ar gael yn etholaeth Ceredigion Penfro wedi methu.

Image
Eluned Morgan - Senedd

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid eu bod yn hynod o siomedig na fyddan nhw yn arwain y llywodraeth nesaf. 

Roedd y gefnogaeth swmpus i'w phlaid yng nghadarnleoedd y de ddwyrain dros y degawdau wedi galluogi Llafur i reoli'n ddi-rwystr ers 1999 - yn gyntaf yn y Cynulliad, ac yna yn y Senedd pan newidiodd enw a statws y sefydliad yn 2020.

Fe fydd canlyniadau'r Senedd yng Nghymru a chanlyniad etholiadau Senedd yr Alban a'r rhai lleol yn Lloegr yn dwyn pwysau cynyddol ar Syr Keir Starmer wth i'w blaid golli tir i Reform UK, Plaid Cymru a'r SNP.

Roedd Syr Keir yn absennol o Gymru yn ystod dyddiau olaf yr ymgyrchu, er iddo ymddangos ochr yn ochr â'r Farwnes Morgan ym mis Chwefror.

Fe ddywedodd hi fod perthynas Llafur Cymru a'r Blaid Lafur yn ganolog yn debyg iawn i berthynas Gavin a Stacey o'r gyfres gomedi boblogaidd.

"Mae gennym ni lawer yn gyffredin, ond mae yna adegau pan rydyn ni’n gwneud pethau’n wahanol", meddai.

Roedd camgymeriad ganddi yn nyddiau olaf yr ymgyrchu, pan alwodd ar bobl i bleidleisio dros Blaid Cymru, yn awgrym o'r pwysau y mae ymgyrch hir yn gallu ei gael ar ymgesiwyr.

Gyda'r pleidleisiau yn cael eu cyfrif, gyda Llafur Cymru yn y gwyll gwleidyddol am y tro cyntaf yn ei hanes, fe fydd y gwaith mawr yn dechrau ymysg ei rhengoedd o geisio dadansoddi'r canlyniadau. 

Y cwestiwn fydd - sut ddaeth plaid oedd mewn grym am mor hir i golli gafael ar y grym hwnnw mewn cyfnod cymharol fyr?

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.