Etholiad y Senedd '26: Y canlyniadau diweddaraf
Map Canlyniadau
Llwytho...
Dosbarthiad Seddau
Llwytho...
Y diweddaraf:
- Dan Thomas yw'r aelod cyntaf o Senedd Cymru i gael ei ethol yn Casnewydd Islwyn
- Mae disgwyl y canlyniadau olaf erbyn tua 17.30 - ond fe allai fynd yn hwyrach na hynny hefyd
- Mae yna ansicrwydd mawr am y canlyniad, gyda’r arolygon barn yn awgrymu y gallai Plaid Cymru neu Reform fod y blaid fwyaf yn y Senedd
- Am y tro cyntaf, fe fydd 96 o Aelodau o’r Senedd yn cael eu hethol, yn hytrach na’r 60 blaenorol
- Fe fydd 16 o etholaethau yn cyhoeddi eu canlyniadau yn ystod y dydd, gyda phob un yn ethol chwe Aelod
Canlyniadau'r Etholiad
Crynodeb
Ffrwd byw
Bangor Conwy Môn: Rhun ap Iorwerth wedi ei ethol
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi ei ethol yn sedd Bangor Conwy Môn.
Hefyd wedi ei hethol mae Helen Jenner, dirprwy arweinydd Reform yng Nghymru.
Tair sedd i Blaid Cymru, dwy i Reform ac un i'r Ceidwadwyr.
Canlyniad Afan Ogwr Rhondda
Plaid Cymru ar y blaen eto, yn Afan Ogwr Rhondda y tro yma.
Tair sedd i Blaid Cymru, dwy i Reform ac un i Lafur.
Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, wedi cadw ei sedd. Ai fo fydd arweinydd nesaf y Blaid Lafur yng Nghymru?
Mae'n ganlyniad arbennig arall i Blaid Cymru.
Canlyniad Pontypridd Cynon Merthyr
Mae Pontypridd Cynon Merthyr wedi cyhoeddi eu canlyniad.
Tair sedd i Blaid Cymru, dwy sedd i Reform ac un i Lafur.
Canlyniad arall gwell na'r disgwyl i Blaid Cymru, ac yn bedair sedd ar y chwith i ddwy ar y dde, a allai fod yn bwysig wrth ffurfio llywodraeth yn y Senedd.
Sedd gyntaf i'r Blaid Werdd yng Nghymru
Sedd gyntaf i'r Blaid Werdd yng Nghymru, a hynny yn Nghaerdydd Penarth.
Sedd hefyd i arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas.
Plaid Cymru wedi cael dwywaith cymaint o'r bleidlais a Reform gan sicrhau tair sedd. Reform, Y Blaid Werdd a Llafur yn cael un yr un.
Alun Davies yn colli ei sedd, Adam Price yn cadw ei sedd
Maen nhw'n dod yn drwch rwan... cofiwch bod modd eu gwirio oll ar y map uchod.
Yn Blaenau Gwent, does yr un sedd i Lafur Cymru - canlyniad rhyfeddol. Mae'n golygu bod Alun Davies wedi colli ei sedd.
Tair sedd i Blaid Cymru, tair i Reform.
Mae Lindsay Whittle a'i wrthwynebydd yn is-etholiad Cearffili ym mis Hydref, Llŷr Powell, wedi eu hethol.
Mae Sir Gaerfyrddin wedi cyhoeddi canlyniad yr etholaeth hefyd.
36,160 i Blaid Cymru i 27,542 i Reform, a thair sedd yr un rhyngddyn nhw.
Cyn arweinydd Adam Price yn cadw ei sedd, sef 3ydd sedd Sir Gaerfyrddin.
Y Blaid Werdd wedi sicrhau eu haelod cyntaf?
Gair gan Gwyn Loader yn etholaeth Caerdydd Penarth...
Mae nifer y pleidleisiau wedi eu rhannu gyda’r ymgeiswyr yn etholaeth Caerdydd Penarth wrth i ni aros am gyhoeddiad swyddogol.
Y gwyrddion yn wen i gyd wrth gymryd lluniau-mae’n edrych fel bod eu harweinydd Anthony Slaughter wedi ei ethol yn Aelod Senedd cyntaf i’r blaid.
Wrth i ni aros i’r ffigyrau gael eu prosesu drwy fformiwla d’Hondt, yr awgrym yma yw bod Plaid Cymru wedi ennill tair sedd, gyda un yr un i Lafur, Reform a’r Gwyrddion. Byddai hynny, osyn cael ei gadarnhau, yn ganlyniad da iawn i Blaid Cymru.
'Ein lleisiau yn cael eu clywed', meddai Dan Thomas o Reform
Yr ail ganlyniad
Mi ydach chi'n disgwyl oes am fws...
Munudau ar ôl y canlyniad cyntaf mae'r ail gyda' ni. Mae'r holl ganlyniadau i'w gweld yn y map uchod.
Dwy sedd i Blaid Cymru, dwy sedd i Reform, un i'r Ceidwadwyr, un i Lafur Cymru, yr un fath unwaith eto.
Ond Plaid Cymru sydd wedi dod i'r brig gyda 27,407 a 24,602 i Reform.
Canlyniad ysgubol i Blaid Cymru i ddod yn gyntaf yma.
Y canlyniad cyntaf!
Mae'r canlyniad cyntaf wedi dod o Gasnewydd Islwyn, ryw awr yn hwyrach na'r disgwyl.
2 sedd i Reform, 2 i Blaid Cymru, un i Lafur Cymru ac un i'r Ceidwadwyr.
Arweinydd Reform UK, Dan Thomas wedi ei ethol.
Reform - 25,572
Plaid Cymru - 23,069
Llafur Cymru - 10,622
Y Ceidwadwyr -8,847
Y Blaid Werdd - 5,898
Y Democratiaid Rhyddfrydol - 2,683
Traftadaeth - 349
Y Blaid Agored - 435
Buddugoliaeth gyntaf i Reform. Ond mae'n ganlyniad da i Blaid Cymru yn un o'r ardaloedd mwyaf heriol iddyn nhw.
'Argyfwng llwyr' i'r Blaid Lafur meddai Richard Wyn Jones
Plaid Cymru am ennill tair sedd yng Nghaerdydd Penarth?
Gair gan Gwyn Loader sy'n y cyfri' yng Nghaerdydd...
Dw’i newydd gael awgrym y gallai Plaid Cymru ennill tair sedd yn etholaeth Caerdydd Penarth. Awgrym yn unig ar hyn o bryd yw y gallai Plaid Cymru ennill hanner y seddi yma gydag un yr un i Lafur, Reform a’r Gwyrddion.
Mae prif yngeisydd Llafur yn yr etholaeth, Huw Thomas yn dweud ei fod e’n obeithiol o gipio sedd “ond dim ond un sedd fyddai i ni”.
Byddai tair sedd i Blaid Cymru yn awgrymu diwrnod anhygoel o dda i Blaid Cymru yn yr etholaeth hon.
Sut mae ein gohebwyr yn cadw'n egniol wrth ddisgwyl y canlyniadau?
Dan Thomas yn cyrraedd Casnewydd Islwyn
Mae arweinydd Reform UK yng Nghymru Dan Thomas wedi cyrraedd etholaeth Casnewydd Islwyn.
Fe gyrhaeddodd Mr Thomas yng Nghasnewydd gan fynd yn syth i'r byrddau cyfri.
Dewch y tu ôl i'r llenni i weld tîm Newyddion S4C wrth eu gwaith
'Cymru yn barod am newid' meddai Rhun ap Iorwerth
Wrth gyrraedd safle cyfri etholaeth Bangor Conwy Môn yn Llandudno, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ei fod yn clywed “llawer o synau cadarnhaol ar draws Cymru”.
Dywedodd: “Ond mae’n gynnar iawn, iawn, ac rydw i wedi gwylio digon o etholiadau fel gohebydd a gwleidydd i wybod ein bod ni’n dal yn ôl nes bod gennym ni’r darlun mawr.
“Rydyn ni’n gwybod beth roedden ni’n ceisio’i wneud yn yr etholiad hwn, gadewch i ni weld sut mae’r prynhawn yn mynd.”
Ychwanegodd ei bod hi wedi bod yn “glir ers peth amser” bod Cymru’n barod am newid.
“Ein gwaith ni oedd ceisio annog pobl i wneud y newid cywir,” meddai.
“A byddwn ni’n gwylio’n ofalus iawn, iawn dros yr oriau nesaf.”
Golwg pryderus iawn ar gefnogwyr y Blaid Lafur yn Fflint Wrecsam
Ai diwrnod o ail-gyfri' fydd hi?
Mi fydd yna ail-gyfri ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni.
Roedd rhai wedi rhagweld hyn gan fod y trothwy rhwng y 6ed sedd ym mhob etholaeth a pheidio ennill yr un sedd am fod mor dynn.
Fe allai'r 6ed sedd fod yn allweddol, yn enwedig i'r pleidiau sydd ddim yn disgwyl ennill sedd ym mhob etholaeth - gan gynnwys y Blaid Lafur.
Roedd disgwyl y canlyniadau cyntaf erbyn hyn!
Disgwyl i Eluned Morgan golli ei sedd
Mae'n ymddangos bod cyfnod Y Farwnes Eluned Morgan yn Senedd Cymru ar ben, gyda'r disgwyl bod y Prif Weinidog wedi methu yn ei hymgyrch i gaei ei hethol i un o'r chwe sedd oedd ar gael yn etholaeth Ceredigion Penfro.
Hi oedd chweched prif weinidog Cymru o rengoedd y Blaid Lafur.
Roedd Llafur Cymru'n disgwyl canlyniadau trychinebus wrth i'r etholwyr droi eu cefn ar ganrif o'i goruchafiaeth yng Nghymru, gan ddewis bwrw pleidlais dros Reform UK a Phlaid Cymru.
Llafur yn disgwyl ennill tua 10 sedd yn unig
Mae ffynhonnell o ran Llafur Cymru wedi dweud eu bod nhw’n disgwyl ennill tua 10 sedd yn unig, a fyddai yn ganlyniad gwaeth nag oedd nifer o’r arolygon barn wedi awgrymu.
“Mae hwn wedi bod yn etholiad anodd iawn i Lafur Cymru yn ddiamau,” medden nhw.
“Rydyn ni bellach yn disgwyl colli sawl Aelod Senedd gweithgar a pharchus. Rydym yn diolch iddyn nhw am eu gwasanaeth i'w cymunedau.
“Mae'n edrych fel y bydd Llafur Cymru yn dychwelyd grŵp o tua 10 AS - a fydd o leiaf yn caniatáu gwrthwynebiad gan Lafur, er ein bod yn siomedig iawn am beidio â gallu arwain llywodraeth.
“Rydym yn disgwyl i Eluned Morgan siarad yn Llandysul yn ddiweddarach yn dilyn ei chanlyniad.”
Pethau'n edrych yn 'amheus iawn' i'r Prif Weinidog Eluned Morgan
'Etholiad hyll' meddai Gareth Wyn Jones
Oes yna ffordd yn ôl i'r Prif Weinidog Keir Starmer?
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2052713928975622582?s=20
Nagoes. meddai cyn Gyfarwyddwr Cyfathrebu Rhif 10 Stryd Downing yn ystod cyfnod Boris Johnson, Guto Harri.
Disgwyl y canlyniad cyntaf mewn ryw hanner awr
Rydyn ni'n disgwyl y canlyniad cyntaf mewn ryw hanner awr a fydd yn rhoi lot gwell syniad i ni pa ffordd mae'r gwynt yn chwythu.
Casnewydd Islwyn neu Blaenau Gwent Caerffili Rhymni allai fod ymysg y cyntaf gan eu bod nhw wedi dilysu pleidleisiau dros nos.
'Plaid wedi ennill' meddai ffynhonnell Reform wrth GB News
Inline Tweet: https://twitter.com/forster_k/status/2052703470096924903?s=20
Mae ffynhonnell o blaid Reform UK wedi dweud wrth ohebydd GB News bod Plaid Cymru 'wedi ennill' yng Nghymru.
Mae'n anodd gwybod pa mor ddibynadwy yw'r ffynhonnell wrth gwrs.
Canran y pleidleiswyr ar ei uchaf eto?
Roedd gobeithion y byddai canran y pleidleiswyr yn cyrraedd 50% am y tro cyntaf yn hanes datganoli yng Nghymru.
Mae rhai o'r etholaethau sydd wedi cyhoeddi hyd yma yn awgrymu y gallai hynny fod yn wir:
Ceredigion Penfro - 55.2%
Casnewydd Islwyn - 47.8%
Blaenau Gwent Caerffili Rhymni - 47.7%
Sir Fynwy Torfaen - 51.9%
Bangor Conwy Môn - 53.85%.
Brycheiniog Tawe Nedd - 47.7%
Clwyd - 51.39%
Caerdydd Ffynnon Taf - 56.85%
Caerdydd Penarth - 58.6%
Wrecsam - 45.6%
Y Blaid Lafur yn wynebu colled drom
Mae’r Blaid Lafur yn wynebu colled drom yng Nghymru ar ôl dioddef canlyniadau trychinebus mewn etholiadau lleol yn Lloegr dros nos.
Mae’r blaid nawr yn paratoi am ragor o ganlyniadau siomedig yn ei chyn-gadarnleoedd yng Nghymru wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfri ar draws etholaethau’r wlad ddydd Gwener.
Mae Syr Keir Starmer wedi dweud ei fod yn cymryd cyfrifoldeb am gyfres “anodd” o ganlyniadau mewn etholiadau lleol yn Lloegr, lle mae cannoedd o aelodau ei blaid wedi colli eu seddi.
Mae ffynhonnell o Lafur Cymru wedi dweud fod pleidlais y blaid wedi chwalu yn etholaeth Blaenau Gwent Caerffili Rhymni a dywedodd y byddai'n "frwydr" i ddal gafael ar un sedd - allan o gyfanswm o chwech - yn yr etholaeth, sy'n cynnwys rhai o'i chadarnleoedd yn ne’r wlad.
Mae Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru ac arweinydd Llafur Cymru, wedi dweud yn flaenorol ei bod mewn perygl o golli ei sedd yn etholaeth Ceredigion Penfro.
Mae’r Dirprwy Prif Weinidog, Huw Irranca-Davies, eisoes wedi cyfaddef fod ei blaid wedi colli i bob pwrpas.
Wrth gael ei holi a fydd Llafur yn ffurfio llywodraeth nesaf Cymru, dywedodd wrth raglen canlyniadau BBC Cymru: "Dydw i ddim yn meddwl y byddwn ni yn y sefyllfa honno."
Daw ei sylwadau ar ôl iddo ddweud nos Iau bod “ymdeimlad cryf dros newid a rhwystredigaeth” yn sgil pwysau costau byw.
“Ar ôl blynyddoedd lawer mewn llywodraeth yng Nghymru, a gyda Llafur bellach yn llywodraethu ar draws y DU, roedd bob amser yn mynd i fod ymdeimlad cryf dros newid a rhwystredigaeth,” meddai.
“Mae'r pwysau parhaus y mae pobl yn eu hwynebu oherwydd costau byw yn wirioneddol ac yn brifo'n ddwfn. Rydym yn cymryd hynny o ddifrif.”
Ychwanegodd: “Yn y dyddiau nesaf, byddwn yn myfyrio ac yn gwrando’n ofalus ar yr hyn y mae pleidleiswyr yn ei ddweud wrthym.
“Ni fydd unrhyw osgoi… Dim ond penderfyniad i wneud pethau’n iawn.”
Fe aeth yn ei flaen i ddweud fod y Farwnes Morgan wedi dangos “arweinyddiaeth benderfynol” mewn “amseroedd anodd iawn” i’r blaid.
Mater i San Steffan yw mewnfudo meddai dirprwy arweinydd Reform yng Nghymru
'Wnâi bwyta tei fi’ os yw Eluned Morgan yn cadw ei sedd
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2052701154878837081?s=20
Dyw yr ymgeisydd Ceidwadol o Geredigion Penfro, Aled Thomas ddim yn disgwyl i'r Prif Weinidog, Eluned Morgan, gadw ei sedd.
Huw Thomas yn pryderu
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2052700223567188417?s=20
Mae Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd ac ymgeisydd yn etholaeth Caerdydd Penarth, yn pryderu am obeithion ei blaid.
Plaid Cymru yn hapus ar hyn o bryd
Y neges ar hyn o bryd gan Blaid Cymru yw eu bod nhw'n hapus gyda sut mae pethau yn edrych ar draws Cymru wrth i'r cyfri' pleidleisiau fynd rhagddo.
Inline Tweet: https://twitter.com/WillHayCardiff/status/2052692474045321482?s=20
Inline Tweet: https://twitter.com/DeansOfCardiff/status/2052693044793672051?s=20
Inline Tweet: https://twitter.com/MikeHughes_/status/2052696895387005243?s=20
Pryd ydyn ni'n disgwyl canlyniadau o'r 16 etholaeth?
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2052693602602459573?s=20
Dyma Jacob Morris i esbonio.
Pam all y blaid fwyaf beidio â bod yn blaid lywodraethol?
Mae’n bosib iawn nad y blaid fydd wedi ennill y nifer fwyaf o seddi yn yr etholiad, ar ddiwedd y cyfrif heddiw, fydd yn gweld ei harweinydd yn dod yn Brif Weinidog ac yn arwain Llywodraeth Cymru nesaf.
Mae angen 49 sedd ar gyfer mwyafrif mewn Senedd o 96 o seddi, ac mae’r arolygon barn yn awgrymu na fydd yr un blaid yn cyrraedd y ffigwr hwnnw.
Mae’r Prif Weinidog yn cael ei ddewis gan Aelodau ar ôl yr etholiad, yn hytrach nag yn uniongyrchol gan bleidleiswyr.
Mae’r Senedd yn dweud bod rhaid dewis Prif Weinidog o fewn 28 diwrnod i’r etholiad - erbyn dechrau mis Mehefin 2026 - neu fe fydd yna etholiad arall.
Os bydd Reform yn ennill y nifer fwyaf o seddi ddydd Gwener ond yn brin o fwyafrif, bydd rhaid i’r blaid chwilio am gefnogaeth plaid arall er mwyn cyrraedd y 49 sedd sydd eu hangen.
Gyda’r arolygon barn yn awgrymu canlyniad anodd i’r Ceidwadwyr, efallai na fydd gan gyfuniad o’r ddwy blaid ddigon o seddi i gyrraedd y trothwy.
Os byddan nhw’n methu, fe allai’r sylw droi at bleidiau’r chwith er mwyn ceisio creu rhyw fath o gytundeb rhyngddyn nhw.
Mae ein rhaglen ganlyniadau bellach yn fyw ar YouTube
Dilynwch ein rhaglen ganlyniadau ar YouTube drwy gydol y dydd.
Vaughan Roderick: 'Diwrnod hanesyddol'
Pum rhif sy’n egluro’r etholiad
Dyma rai o’r rhifau sy’n esbonio etholiad y Senedd eleni:
96 – nifer yr Aelodau a fydd yn cael eu hethol i’r Senedd eleni, cynnydd ar y 60 a oedd yno cyn hyn
16 – nifer yr etholaethau yng Nghymru yn yr etholiad eleni. Roedd 40 o etholaethau yn 2021, gyda 20 o aelodau ychwanegol yn cael eu hethol drwy’r pum rhestr ranbarthol
6 – nifer yr Aelodau sy’n cael eu hethol ym mhob etholaeth drwy system gyfrannol
1 – nifer y pleidleisiau sydd gan bawb. Roedd dwy bleidlais gan bawb yn 2021, un yn yr etholaeth ac un ar y rhestrau rhanbarthol
49 – nifer y seddi sydd eu hangen ar blaid i gael mwyafrif yn y Senedd a gallu llywodraethu ar ei phen ei hun. Does dim disgwyl ar hyn o bryd i’r un blaid gyrraedd y ffigwr hwnnw heddiw.
Dilynwch ganlyniadau etholiad Senedd Cymru ar draws platfformau Newyddion S4C
Beth yw’r sïon diweddaraf?
Mae’n ddyddiau cynnar, ond mae sïon wedi bod yn drwch drwy gydol y bore bod y Blaid Lafur yn wynebu brwydr i ennill sedd yng Nghasnewydd Islwyn a Blaenau Gwent Caerffili Rhymni.
Byddai hynny yn ganlyniad trychinebus i Lafur wedi i’r arolygon barn awgrymu eu bod nhw am ennill o leiaf un o’r chwe sedd yn y ddwy etholaeth yn weddol gyfforddus.
Os yw’n gywir, fe allai awgrymu eu bod nhw’n wynebu talcen caled ar draws gweddill Cymru.
Inline Tweet: https://twitter.com/DanGreenJourno/status/2052681907515576666?s=20
Inline Tweet: https://twitter.com/WillHayCardiff/status/2052625441240813935?s=20
Inline Tweet: https://twitter.com/DeansOfCardiff/status/2052681714288198016?s=20
Y darlun yn Afan Ogwr Rhondda
Dafydd Morgan sydd yn y cyfri' yn Afan Ogwr Rhondda.
Yma yng Nghastell Nedd ma’r gwaith gwirio wedi dechrau ar gyfer etholaeth Afan Ogwr Rhondda. Mae ‘na deimlad ymlaciedig gan ymgyrchwyr ac ymgesiwyr y pleidiau yma hyd yn hyn.
Mae’n ddyddiau cynnar yn y broses o gyfri wrth gwrs. Yn ô y Swyddog Canlyniadau fe fydd gyda ni syniad o faint o bobol sydd wedi pleidleisio tua 12:30 a’r cyfri go iawn yn dechrau ar ol hynny.
Mae’r etholaeth yma yn ymestyn o Bort Talbot i ben ucha’r Rhondda – ardal ddiwydiannol ac ôl-ddiwydiannol. Yn un o gadarnleoedd y blaid Lafur sydd wedi dal grym ers dros ganrif.
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies yma yn ceisio am sedd.
Ond y cwestiwn yw i ba raddau ma Llafur yn mynd i golli gafael ar y rhan yma o Gymru. Mae ‘na chwe sedd i’w hennill, a’r arolygon barn diweddara yn awgrymu taw Plaid Cymru a Reform UK fydd yn ennill y rhan helaeth o rheini. A fydd Llafur yn hawlio sedd?
Y cyfri' wedi dechrau yn Bangor Conwy Môn
Beth mae’r arolygon yn ei awgrymu fydd y canlyniad?
Mae’r arolygon barn wedi awgrymu darlun eithaf cyson ers dechrau’r flwyddyn.
Maen nhw’n dangos Plaid Cymru a Reform yn agos iawn at ei gilydd, gyda’r ddwy blaid yn aml o gwmpas 25–33% o’r bleidlais.
Roedd Plaid Cymru ar y blaen o drwch blewyn yn yr arolygon barn a gyhoeddwyd yn ystod wythnos olaf yr ymgyrchu.
Mae’r arolygon hefyd wedi awgrymu yn weddol gyson bod Llafur yn y trydydd safle, ond mae pa mor bell y mae’r blaid ar ei hôl hi wedi amrywio cryn dipyn.
Mae rhai arolygon barn, gan gynnwys rhai gan More in Common, wedi rhoi Llafur yn nes at 20%, tra bod rhai llai caredig, fel YouGov, wedi awgrymu bod y blaid mor isel â 12–13%.
Mae’r Blaid Werdd a’r Ceidwadwyr wedi bod ar tua 10% o’r bleidlais, a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar tua 6%.
Mae’n bosib, wrth gwrs, bod yr arolygon barn yn anghywir.
Mae hon yn system bleidleisio newydd, gydag etholaethau newydd, ac felly mae’n anodd hefyd rhagweld sut y bydd pleidleisiau yn troi’n seddi yn y Senedd.
Pryd mae disgwyl i’r canlyniadau ein cyrraedd ni?
Bydd y cyfri yn dechrau bore Gwener, ac mae disgwyl i’r canlyniadau cyntaf gael eu cyhoeddi yn y prynhawn.
Oherwydd ei fod yn system bleidleisio newydd mae mwy o ansicrwydd nag arfer ynglŷn â phryd fydd y canlyniadau llawn yn cael eu cyhoeddi.
Brasamcanion yw’r amseroedd isod i gyd. Gallan nhw gael eu heffeithio gan oedi wrth wirio a chyfrif pleidleisiau, gan lefel y nifer a bleidleisiodd, neu gan yr angen i ail-gyfri pleidleisiau os yw’r canlyniadau’n agos.
Mae’r holl amseroedd yn cyfeirio at brynhawn ddydd Gwener:
- Casnewydd Islwyn - 14:00
- Gŵyr Abertawe - 14:00
- Sir Fynwy Torfaen - 14:00
- Bangor Conwy Môn - 15:00
- Blaenau Gwent Caerffili Rhymni - 15:00
- Brycheiniog Tawe Nedd - 15:00
- Caerdydd Ffynnon Taf - 15:00
- Caerdydd Penarth - 15:00
- Ceredigion Penfro - 15:00
- Clwyd - 15:00
- Pen-y-Bont Bro Morgannwg 15:00
- Afan Ogwr Rhondda - 15:30
- Gwynedd Maldwyn - 15:30
- Pontypridd Cynon Merthyr - 16:00
- Sir Gaerfyrddin - 16:00
- Fflint Wrecsam - 17:30
Ymateb Plaid Cymru wrth i’r blychau pleidleisio gau
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru nos Iau: “Wrth i’r gorsafoedd pleidleisio gau ledled Cymru heno, mae Plaid Cymru yn diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y foment bwysig hon i’n democratiaeth ac i ddyfodol ein cenedl.
“Mae pobl wedi dweud wrthym eu bod wedi cael eu hysbrydoli gan arweinyddiaeth Rhun ap Iorwerth ac wedi’u gyrru gan awydd am ddewis arall cadarnhaol i anhrefn Reform UK a’u hymgais i rannu ein cymunedau.
“Mae pobl Cymru bellach wedi pleidleisio, ac rydym yn edrych ymlaen at y canlyniadau ddydd Gwener gyda gobaith am y dyfodol cadarnhaol y mae Cymru’n ei haeddu.”
Y dilysu yn Llandysul ar gyfer sedd Ceredigion Penfro
Mae'r dilysu pleidleisiau wedi dechrau yn Ysgol Bro Teifi Llandysul ar gyfer etholaeth Ceredigion Penfro.
Dyma'r sedd lle mae'r Prif Weinidog, Eluned Morgan o'r Blaid Lafur yn sefyll., a hefyd y Llywydd, Elin Jones o Blaid Cymru. Pwy fydd yn gwenu yma ar ddiwedd y noson?
Faint fydd wedi pleidleisio eleni?
Mae'r canrannau cyntaf o ran faint sydd wedi pleidleisio wedi eu cyhoeddi:
- Blaenau Gwent Caerffili Rhymni: 47.7%
- Casnewydd Islwyn: 47.8%
Roedd rywfaint o obaith, gan fod y ras wedi bod mor agos eleni, y byddai mwy o bobl yn cymryd diddordeb ac yn bwrw pleidlais.
Nid yw’r ganran a bleidleisiodd erioed wedi cyrraedd 50% na mwy. Roedd y ffigwr ar ei uchaf yn 2021, gyda 46.6% yn bwrw pleidlais, ac ar ei isaf yn 2003, gyda dim ond 38.2% yn dewis gwneud hynny.
Fe bleidleisiodd 50.43% yn is-etholiad Caerffili ym mis Hydref, gan awgrymu y gallai’r ffigwr fod yn uwch na’r arfer eleni.
Mae’n anodd gwybod pwy fyddai’n cael budd o ganran uwch yn pleidleisio, wrth gwrs.
Fe allai awgrymu bod Reform wedi dod o hyd i bleidleiswyr newydd i’w cefnogi.
Ond fe allai hefyd awgrymu bod pleidleiswyr wedi dod allan er mwyn “stopio Reform”, fel y mae rhai o bleidiau’r chwith wedi bod yn eu hannog nhw i wneud.
Bydd hefyd yn ddiddorol gweld faint o’r bobol ifanc 16 ac 17 oed fydd wedi pleidleisio. Dyma’r ail etholiad Senedd iddyn nhw allu gwneud hynny.
Ymateb y Blaid Lafur wrth i’r blychau pleidleisio gau
Cadeirydd Ymgyrch Llafur Cymru, Huw Irranca-Davies, nid y Prif Weinidog Eluned Morgan wnaeth ymateb wedi i'r ymgyrch ddod i ben nos Iau.
Dywedodd bod yr ymgyrch wedi bod yn un “anodd” i’r blaid, a hynny “dan amgylchiadau heriol”.
“Ar ôl llawer o flynyddoedd mewn llywodraeth yng Nghymru, a chyda Llafur nawr yn llywodraethu ar draws y DU, roedd wastad mynd i fod ymdeimlad cryf o rwystredigaeth a newid. Mae’r pwysau costau byw parhaus y mae pobl yn eu teimlo yn wirioneddol ac yn cael eu teimlo’n ddwfn.
“Drwy gydol yr ymgyrch, mae Eluned Morgan wedi dangos arweinyddiaeth bositif, egnïol a phenderfynol yn ystod cyfnod anodd iawn. Fe wnaeth hi ymgymryd â’r her yn ystod un o’r cyfnodau anoddaf i Lafur Cymru ei wynebu erioed, gan arwain â dygnwch, chynhesrwydd a ffocws.”
Sut a lle mae modd dilyn arlwy Newyddion S4C?
Fe fydd yna wledd o gynnwys ar eich cyfer chi yma drwy gydol y dydd, ar draws ystod o lwyfannau.
Fe fydd darllediad byw o holl arlwy sianel S4C ar gael i’w wylio ar ein tudalen YouTube.
Bydd modd hefyd dilyn y canlyniadau a pigion o’r trafod a’r dadansoddi ar draws Facebook, Instagram, X a TikTok.
Fe allwch chi hefyd wrth gwrs aros yma ar hafan Newyddion S4C a darllen y diweddaraf o’r dadansoddiad, dilyn y map uchod wrth i’r canlyniadau ein cyrraedd ni, a hefyd gwylio pigion o gynnwys fideo ein gwasanaeth o bobman arall.
Croeso i flog byw Etholiad y Senedd 2026
Bore da a chroeso i flog byw Etholiad y Senedd, wrth i ni ddechrau’r hyn sy’n siŵr o fod yn ddiwrnod mawr yn hanes gwleidyddol Cymru.
Ym mhob un o’r etholiadau eraill i’r Senedd ers chwarter canrif, rydyn ni wedi gwybod ymlaen llaw pwy oedd y ffefryn clir i ennill, sef y Blaid Lafur.
Am y tro cyntaf yn hanes datganoli, mae yna ansicrwydd go iawn am y canlyniad, gyda’r arolygon barn yn awgrymu y gallai Reform neu Blaid Cymru fod y blaid fwyaf yn y Senedd.
Mae yna ansicrwydd hefyd ynghylch beth fydd y canlyniad i’r blaid sydd wedi dominyddu gwleidyddiaeth Cymru gyhyd, sef y Blaid Lafur.
A yw’r blaid honno yn wynebu chwalfa, dod yn drydydd agos – neu a fydd yna sioc wrth iddi wneud yn well na’r disgwyl?
I gael gwybod yr atebion i’r holl gwestiynau hyn, gobeithio y byddwch chi’n ein dilyn ni am yr oriau nesaf!