Andy Burnham yn addo ‘newid y ffordd y mae Prydain yn cael ei llywodraethu’ ar ôl cael ei gadarnhau’n arweinydd newydd Llafur
Mae Andy Burnham wedi addo "newid y ffordd mae Prydain yn cael ei llywodraethu" wrth iddo gael ei gadarnhau yn arweinydd newydd y Blaid Lafur ddydd Gwener.
Cyflwynodd y blaid Mr Burnham fel yr arweinydd newydd mewn cynhadledd arbennig yng nghanol Llundain am hanner dydd, cyn y bydd yn cael ei gadarnhau fel Prif Weinidog y DU ar ddydd Llun 20 Gorffennaf.
“Mae’r dyddiau nesaf yn ymwneud â mwy na newid pwy sy’n llywodraethu Prydain," meddai.
“Maen nhw’n ymwneud â newid sut mae Prydain yn cael ei llywodraethu.”
Diolchodd Andy Burnham i’r Prif Weinidog, Syr Keir Starmer, wrth iddo ddweud ei fod yn “barod i arwain”.
Dywedodd arweinydd newydd Llafur: “Mae hon yn foment falch rydych chi wedi’i rhoi i mi a fy nheulu heddiw, ac yn un emosiynol.
“Ond mae’n foment rwy’n barod amdani. Rwy’n barod, yn barod i arwain ac i adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan un person yn fwy na neb arall.
“Dan arweinyddiaeth Keir Starmer, fe aethon ni o’n colled waethaf i un o’r buddugoliaethau gorau yn ein hanes.
“Fe roddodd Keir Lafur ni mewn sefyllfa i newid bywydau pobl, a dyna beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”
Ychwanegodd: “Heddiw, rydyn ni’n diolch i Keir am ei wasanaeth i’n plaid ac i’n gwlad.”
Burnham, yr aelod newydd dros etholaeth Makerfield, oedd yr unig AS Llafur i ymuno â chystadleuaeth am arweinyddiaeth y blaid, wedi i Syr Keir Starmer gyhoeddi ei ymddiswyddiad fis diwethaf.
Fe wnaeth y mwyafrif helaeth o aelodau Llafur yn Nhŷ’r Cyffredin, sef 322, bleidleisio o blaid dewis Mr Burnham fel yr arweinydd newydd mewn pleidlais wythnos diwethaf.
Rhagor i ddilyn...
