De Cymru i golli bron i 6,000 o swyddi o achos y rhyfel yn y Dwyrain Canol yn ôl adroddiad
Bydd nifer y swyddi yn Ne Cymru yn gostwng 5,700 eleni o ganlyniad i'r rhyfel yn y Dwyrain Canol, yn ôl rhagolygon.
Mae adroddiad newydd wedi rhybuddio y bydd de Cymru yn un o'r ardaloedd yn y DU a fydd yn gweld y gostyngiad mwyaf mewn nifer y swyddi dros y flwyddyn nesaf. Daw hyn yn sgil cynnydd sylweddol mewn prisiau ynni.
Mae'r adroddiad wedi ei lunio gan y grŵp rhagolygon economaidd Item Club.
Gan fod de Cymru yn ddibynnol iawn ar y sectorau gweithgynhyrchu ac adeiladu, mae Item Club yn rhagweld y bydd swyddi’n cael eu colli yno o ganlyniad i gostau uwch a tharfu ar gyflenwadau yn sgil y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.
Y rhybudd yn y ddogfen yw bod disgwyl i'r DU golli 163,000 o swyddi, gydag ardaloedd incwm is yn cael eu taro galetaf.
Dywedodd cynghorydd economaidd i’r Item Club, Tim Lyne: "Bydd rhai o’r rhanbarthau incwm isaf yn teimlo’r effeithiau mwyaf o’r sectorau gweithgynhyrchu ac adeiladu yn lleihau nifer y gweithwyr wrth wynebu prisiau ynni cynyddol a tharfu ar y gadwyn gyflenwi.
"Mae gan ddefnyddwyr yn yr ardaloedd hyn fel arfer lai o gynilion, gan olygu y byddan nhw'n gwario llai yn y sectorau manwerthu a lletygarwch."
Mae Item Club yn rhagweld y bydd cyflogaeth yn y DU yn gostwng 0.4% eleni, sy’n cyfateb i 163,000 o golledion swyddi ar sail net.
Bydd yn cael ei yrru gan ostyngiad mewn gwariant defnyddwyr yn ogystal â chostau tanwydd, ynni, deunyddiau a chynhwysion sy'n codi'n sydyn.
Rhybuddiodd Banc Lloegr ddiwedd mis Ebrill y gallai cyfradd ddiweithdra’r DU gyrraedd 5.6% eleni, i fyny o 5.2% ar hyn o bryd.
Er bod disgwyl i'r sector cyhoeddus gyflogi mwy o swyddi dros y flwyddyn nesaf, mae'r adroddiad yn nodi na fydd hyn yn gwrthbwyso'r colledion.
Mae'r adroddiad hefyd wedi rhybuddio am y bwlch sy'n datblygu mewn safonau byw ar draws y DU o ganlyniad i'r rhyfel yn y Dwyrain Canol.
Bydd aelwydydd mewn ardaloedd incwm is yn dioddef y cynnydd mwyaf yng nghostau byw, wrth i fwy o'u harian gael ei wario ar filiau bwyd, tanwydd ac ynni a fydd yn gweld cynnydd sylweddol mewn prisiau dros y misoedd nesaf.