David Sullivan yn erlyn y BBC am fwy na £150 miliwn dros honiadau Panorama
Mae cyfreithwyr cyn-gadeirydd West Ham United David Sullivan wedi cadarnhau ei fod yn dwyn achos yn erbyn y BBC yn yr Uchel Lys am fwy na £150 miliwn dros honiadau “difenwol” a gafodd eu gwneud mewn rhaglen ddogfen Panorama.
Fis Mehefin eleni fe gyhoeddodd y BBC a The Times adroddiadau gan saith o fenywod a honnodd fod Mr Sullivan wedi ymddwyn mewn ffordd gamfanteisiol yn rhywiol ac yn rheibus (predatory).
Mae’r honiadau’n dyddio’n ôl i’r 1980au a’r 1990au, pan oedd Mr Sullivan yn berchen ar bapurau newydd tabloid y Daily Sport a’r Sunday Sport.
Mae Mr Sullivan wedi dweud yn flaenorol ei fod yn gwadu’r honiadau.
Fe wnaeth ymddiswyddo fel cyd-gadeirydd West Ham United ychydig cyn i’r honiadau gael eu cyhoeddi, er mwyn brwydro yn erbyn yr honiadau am ei fywyd personol, a oedd, meddai, yn “hollol anghywir” o ran ffeithiau, ac yn gwbl “ffug”.
Ddydd Iau fe ddywedodd llefarydd ar ran GSP Law, sy’n cynrychioli Mr Sullivan, fod y cwmni wedi cael cyfarwyddyd i gyflwyno hawliad yn yr Uchel Lys yn erbyn y BBC am fwy na £150 miliwn mewn iawndal am gyhoeddi’r honiadau.
Mae cofnodion y llys yn dangos bod Mr Sullivan wedi cyflwyno hawliad am “ddifenwi ac enllib llafar” yn erbyn y BBC brynhawn Iau, ond nid yw dogfennau’r hawliad ar gael eto.
Mae’r BBC wedi gwrthod gwneud sylw.
Fe ddywedodd Heddlu Essex bod ymholiadau’n parhau.
Fe ddywedodd y Rheoleiddiwr Pêl-droed Annibynnol hefyd ym mis Awst fod ei ymchwiliadau i addasrwydd Mr Sullivan o dan ei drefn Perchnogion, Cyfarwyddwyr a Gweithredwyr Uwch (ODSE) yn “fyw ac yn parhau”.
Mr Sullivan yw ail gyfranddaliwr mwyaf West Ham o hyd, gyda chyfran o 40% o’r clwb.
