Cymru Premier: Platfform newydd i ffrydio bob gêm yn y tymor newydd
Fe fydd holl gemau’r Cymru Premier yn y tymor newydd yn cael eu ffrydio'n fyw ar blatfform newydd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
Mae’r Gymdeithas wedi lansio platfform o’r enw Cymru Football TV, fydd yn cynnig darllediadau byw o bob gêm yn y gynghrair, yn ogystal â gemau timau ieuenctid Cymru a gemau domestig eraill.
Bydd yn rhaid talu £99.99 am y tymor, neu £12.99 y mis er mwyn tanysgrifio i’r gwasanaeth. Mae modd talu i wylio fesul gêm yn ogystal am bris o £8.99.
Dywedodd llefarydd ar ran Gymdeithas Bêl-droed Cymru y byddai cytundeb newydd am hawliau darlledu’r gemau ar deledu yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Eleni, bydd y gynghrair yn ehangu o 12 clwb i 16 o glybiau, gyda'r mwyafrif o'r gemau'n cael eu cynnal ar nos Wener.
Dywedodd Jack Sharp, Pennaeth Cynghreiriau Domestig Cymdeithas Bêl-droed Cymru bod modd i glybiau elwa’n uniongyrchol o’r platfform wrth i gefnogwyr brynu pecynnau tanysgrifio.
“Wrth i newidiadau strwythurol gael eu cyflwyno ar draws Uwch Gynghrair Cymru, mae'n parhau i fod yn hanfodol bod cefnogwyr yn parhau i gael mynediad at eu clybiau.
“Gobeithiwn y bydd y platfform yn darparu canolfan ar gyfer pêl-droed domestig i gefnogwyr ffyddlon a newydd fel yr unig le i wylio pob gêm Uwch Gynghrair Cymru yn fyw," meddai.
Mae S4C wedi dangos gemau’r uwch gynghrair ers 2008.
Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Mae pêl-droed yn rhan bwysig o arlwy S4C ac mae trafodaethau yn parhau ar gyfer trefniadau darlledu’r tymor nesaf."
Cyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon mai'r cwmni Novira fydd noddwyr teitl cynghreiriau'r Cymru Premier, Cymru North a Cymru South.