Mis dathliadau Pride: 'Dim balchder mewn byd sy'n fy nghasau i'

Mis dathliadau Pride: 'Dim balchder mewn byd sy'n fy nghasau i'

Wedi i fis Pride ddirwyn i ben ddiwedd Mehefin, mae Newyddion S4C wedi gofyn i'r newyddiadurwr Ivy Kelly, sydd hefyd yn berson traws, am ei hargraffiadau hi o'r ffordd mae pobl traws yn cael eu gweld mewn cymdeithas: 

Dydw i ddim yn teimlo balchder, rwy'n teimlo'r gwrthwyneb. Beth alla i wneud am hynny?

Dyma’r teimlad wnes i benderfynu ei rannu ar fy nghyfrif TikTok y mis Balchder diwethaf, ond y gwir yw fy mod i wedi bod yn teimlo fel hyn ers llawer yn hirach.

Pob blwyddyn tua'r amser yma, pan mae disgwyl i mi deimlo balchder, dwi’n teimlo cywilydd yn lle hynny. 

Mae achos i ddathlu i lawer yn parhau i fod yn rhywbeth sydd yn gwneud i fi deimlo yn anghyfforddus. 

Mae yna rhywbeth am y baneri enfys sydd ddim yn teimlo yn ddidwyll i fi oherwydd y dyddiau hyn mae bod yn falch yn teimlo fel rhywbeth peryglus. 

Rwy'n meddwl bod fy nghywilydd yn dod o gredu bod fi'n byw mewn byd sy'n casáu fi, sy’n gwrthod cynnig dealltwriaeth, ac yn hytrach yn awyddus i basio barn. 

Rwy'n gwybod os ydw i yn bod yn rhesymegol bod hyn ddim yn wir. 

'Casineb'

Ond rwy'n credu bod llawer o gasineb yn dod o'r cyfryngau, sydd wedi parhau i ddylanwadu ar agweddau cymdeithas tuag at y grwpiau mwyaf bregus, fel pobl draws.

Ym Mai eleni, fe ddatgelodd Amnesty ystadegau sy’n dangos bod dros 17,000 o erthyglau “beirniadol o safbwynt rhywedd” wedi’u cyhoeddi rhwng Ionawr 2020 ac Ebrill 2025.

Yn ôl Amnesty, mae hyn yn cyfateb i naw erthygl y dydd, gyda naratif gwrth-draws yn y cynnwys, tra bod lleisiau traws “bron yn absennol yn gyfan gwbl”.

Yr hyn sy’n fy synnu gyda’r ystadegau hyn yw faint o gynnwys cyfryngol sydd wedi’i neilltuo i grŵp o bobl sy’n cyfateb i tua 0.5% o boblogaeth y DU. 

Sut bod hi'n bosib bod canran mor fach o bobl yn fater o bryder cenedlaethol?

Dwi yn deall y teimladau cryfion am ein bod ni'n aml yn cael ein portreadu gan y cyfryngau fel ysglyfaethwyr sy’n ceisio radicaleiddio plant ac yn bygwth diogelwch menywod.

Dyfarniad y Goruchaf Lys 

Weithiau dyna'r hyn rwy'n ei weld pan mae person dieithr ar y stryd neu mewn caffi rhywle yn syllu arna i. Mae yna eiliad lle rwy'n meddwl: ai dyma sut maen nhw'n fy ngweld i? Rhyw fath o fwystfil?

Pe bai'n rhaid i mi nodi un foment a wnaeth achosi fi i fod yn fwy ymwybodol o sut mae eraill yn fy ngweld i, y foment honno fyddai dyfarniad Goruchaf Lys y DU ym mis Ebrill 2025.

Penderfynodd y Goruchaf Lys yn unfrydol fod y diffiniad cyfreithiol o “ddyn,” “menyw,” a “rhyw” yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn cyfeirio’n gyfan gwbl at ryw biolegol unigolion adeg eu geni.

Fe wnaeth y dyfarniad hwnnw argraff fawr arnai. Fe wnaeth fy Mam hyd yn oed ysgrifennu llythyr at y Prif Weinidog ar y pryd, Eluned Morgan, yn ymbilio arni hi i ddiogelu hawliau pobl draws yng Nghymru.

G’ath mam ddim ateb yn ôl gan y Prif Weinidog ar y pryd."

Gofynnodd Newyddion S4C am ymateb gan Lywodraeth newydd Cymru am bryderon Ivy am ddiogelwch y gymuned drawsryweddol. Mewn datganiad, dywedodd llefarydd: 

"Rydyn ni'n dathlu pobl LHDTC+ yng Nghymru, ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu byw'n rhydd o ragfarn, anoddefgarwch a chasineb.   

"Rydyn ni’n parchu penderfyniad y Goruchaf Lys, ac yn adolygu'r Cod drafft a'i oblygiadau i Gymru yn ofalus. 

"Nid yw dyfarniad y Goruchaf Lys yn lleihau'r amddiffyniadau presennol i bobl drawsryweddol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac ni fydd yn dod yn esgus dros eithrio, amharchu na thriniaeth annheg.”

Deddfu

Wrth fanylu ar benderfyniad y llys, aeth Ivy ymlaen i esbonio: 

"Y teimlad cryfaf oedd gyda fi y diwrnod hwnnw oedd pryder, bod y penderfyniad yn gallu agor y drws at fwy o ddeddfu yn erbyn pobl draws sy'n barod yn fregus. 

Yr hyn sy'n waeth byth yw fy mod i yn poeni a hynny er bod gen i deulu sy'n fy nerbyn fel ydw i. Dyw pawb traws ddim mor ffodus â fi.  

Dwi ddim yn deall sut mae bod yn falch o fod yn chi eich hun yn dderbyniol un mis ond gweddill y flwyddyn mae'r cyfryngau yn rhoi neges hollol groes: “Allwch chi ddim bod yr hyn nad ydych chi.”

Felly sut alla i deimlo balchder mewn byd sy'n teimlo bod o yn fy erbyn i? 

Mae ysgrifennu'r erthygl yma wedi bod yn anodd ac wedi gorfodi fi i wynebu'r sefyllfa. 

Er hynny rwy'n cael cysur o wybod hyd yn oed gyda'r holl anawsterau sy'n dod gyda byw yn draws, allai ddim byw unrhyw ffordd arall. 

Dwi wir yn credu hyn - allwch chi ddim bod yn rhywbeth chi ddim."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.