Carchar am oes i ddyn o Lanelwy am lofruddio ei gymydog ar Ddydd Nadolig
Mae dyn 67 oed wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio ei gymydog ar Ddydd Nadolig y llynedd yn Llanelwy.
Daeth rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon i'r casgliad bod James Hughes yn euog ddiwedd Mehefin.
Clywodd y llys yn ystod yr achos fod James Hughes wedi curo Harry Turner, 68, gyda ffon gerdded cyn iddo farw.
Roedd archwiliad post-mortem wedi canfod fod Mr Turner wedi marw o ganlyniad i asphyxia ac wedi dioddef anaf difrifol i'w wyneb a'i ben.
Ddydd Iau, fe wnaeth yr Arglwydd Ustus Matthew Nicklin ddedfrydu Hughes i garchar am oes gyda lleiafswm o 12 mlynedd a 180 diwrnod.
Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen ar ran chwaer Mr Turner, clywodd y llys ei bod yn "cael diwrnod bendigedig tan i mi gael cnoc ar y drws a newidiodd bopeth...doeddwn i ddim yn disgwyl agor y drws i ddau blismon.
"Doeddwn i ddim yn gallu credu bod fy unig frawd wedi cael ei lofruddio, gofynnais y cwestiwn i mi fy hun, pam? Does neb yn haeddu hyn.
"Mae digwyddiadau Dydd Nadolig wedi newid popeth i mi ac aelodau'r teulu. Mae meddwl am y ffaith na fydda i fyth yn gallu gweld fy mrawd eto, ac na fydd yn gweld ei nithoedd a’i neiaint eto, yn anodd.
"Doedd fy mrawd Harold ddim yn haeddu dod i ddiwedd ei oes gyda’r llofruddiaeth ofnadwy yma."
Wrth siarad ar ôl y dedfrydu, dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Eleri Thomas: "Roedd hon yn llofruddiaeth ddi-synnwyr a wnaeth ddeillio o anghydfod rhwng dau gymydog a oedd wedi ymddeol."