Cwmni Da yn 'cynnig cyfleoedd diswyddo gwirfoddol' i'w staff
Mae Newyddion S4C yn deall fod un o gwmnïau teledu annibynnol mwyaf y gogledd wedi cynnig cyfle i staff wneud cais am ddiswyddiad gwirfoddol wrth gynnal "ymgynghoriad anffurfiol ar ei strategaeth."
Dywedodd Cwmni Da, sydd wedi ei leoli yng Nghaernarfon, fod yr ymgynghoriad mewn ymateb i "newid sylweddol yn nhirwedd darlledu."
Mae'r cwmni yn cyflogi 50 o weithwyr llawn amser, wyth aelod o staff rhan-amser a 46 o weithwyr llawrydd, yn ôl eu gwefan.
Mewn datganiad i Newyddion S4C, dywedodd Cwmni Da eu bod yn cynnal ymgynghoriad er mwyn "ymateb i newid sylweddol yn nhirwedd darlledu."
"Rydym yn y broses o gynnal ymgynghoriad anffurfiol ar ein strategaeth hirdymor gyda staff a rhanddeiliaid er mwyn ymateb i newid sylweddol yn nhirwedd darlledu.
"Byddai'r broses yn helpu i siapio’r cwmni i fanteisio ar gyfleoedd cyffrous sydd ar gael yn sgil twf llwyfannau digidol ac arferion gwylio newydd cynulleidfaoedd."
'Pwyso a mesur'
Mae Cwmni Da wedi cynhyrchu sawl cyfres gyfarwydd ar S4C, gan gynnwys Y Cyfweliad, Stad, Garddio a Mwy, Noson Lawen a Deian a Loli.
Dywedodd prif weithredwr y cwmni, Bethan Griffiths, fod Cwmni Da yn hyderus o "addasu a pharhau i gynhyrchu cynnwys o'r safon uchaf."
"Fel pob cwmni cynhyrchu cyfryngau annibynnol yng Nghymru a thu hwnt, mae Cwmni Da yn wynebu cyfnod o bwyso a mesur," meddai.
"Mae modelau cynhyrchu traddodiadol yn newid ac mae darlledwyr a chwmnïau cynhyrchu yn edrych i leihau gorbenion ac yn dod yn fwy ystwyth wrth i amodau'r farchnad newid.
"Nid yw'r heriau yn unigryw i ni – maen nhw’n adlewyrchu tirwedd darlledu presennol, sy'n rhoi pwysau ar gyllidebau comisiynu, newidiadau mewn arferion gwylio cynulleidfaoedd a marchnad fyd-eang sy’n gynyddol gystadleuol.
"Rydym yn hyderus yn ein gallu i addasu, parhau i gynhyrchu cynnwys o’r safon uchaf, a pharhau i chwarae rhan allweddol yn eco-system cynhyrchu rhaglenni Cymraeg y dyfodol."
Ychwanegodd fod y cwmni'n ymrwymo i drin ei staff gyda "pharch a thryloywder llawn" drwy gydol yr ymgynghoriad.
"Rydym yng nghanol proses ymgynghori fewnol ac yn cynllunio ar gyfer dyfodol sy'n cynnig cyfleoedd cyffrous.
"Rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif ac yn ymrwymo i drin pawb gyda pharch a thryloywder llawn drwygydol y broses.
"Rydym wedi diddanu gwylwyr ers dros ddau ddegawd, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Mae Cwmni Da wedi ymrwymo i'r Gymraeg, i'n cymunedau, ac i gynhyrchu cynnwys o'r radd flaenaf."

