Y newyddiadurwr Trevor Fishlock wedi marw yn 85 oed

ITV Cymru
Trevor Fishlock

Mae'r newyddiadurwr Trevor Fishlock, wedi marw yn 85 oed.

Yn ystod ei yrfa, roedd yn ohebydd tramor i'r Times a'r Daily Telegraph ac yn gweithio ar rai o straeon mwyaf y byd.

Yn ddiweddarach yn ei yrfa, roedd yn cyflwyno cyfres deledu Wild Tracks ar HTV a Fishlock's Wales ar gyfer ITV Cymru Wales.

Roedd yn wybodus am hanes Cymru ac yn ei waith yn ceisio sicrhau bod gan bawb fynediad at hanes Cymru.

Ysgrifennodd sawl llyfr am hanes Cymru yn ystod ei fywyd.

Dywedodd Jonathan Hill, cyflwynydd a chyn-olygydd rhaglenni iaith Saesneg ITV Cymru Wales, fod Trevor Fishlock wedi gwneud "cyfraniad enfawr" i hanes Cymru.

"Roedd Trevor yn newyddiadurwr o'r radd flaenaf ac yn ddarlledwr hynod dalentog," meddai.

"Roedd ganddo allu eithriadol i siarad yn uniongyrchol â gwylwyr fel pe bai'n sgwrsio â hen ffrind.

"Fe gyfrannodd yn enfawr at ddealltwriaeth hanes ein gwlad, ac roedd gwylwyr wrth eu bodd yn ei wylio.

"Ond yn fwy nag unrhyw beth, byddaf yn ei gofio fel dyn swynol a hyfryd oedd bob tro â rhywbeth rhyfeddol i'w rannu. Byddwn yn ei golli'n fawr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.