Cymru Premier JD: Cei Connah yn teithio i Ben-y-bont

Pen-y-bont v Cei Connah

Saith rownd o gemau sydd ar ôl i’w chwarae yn nhymor y Cymru Premier JD ar ôl y penwythnos yma ac mae’r Seintiau Newydd 13 pwynt yn glir ar frig y tabl ar ôl curo Bae Colwyn nos Wener gan agosáu at eu pumed pencampwriaeth yn olynol.

Yn y ras am yr ail safle, a’r ail docyn i Ewrop, mae Cei Connah 10 pwynt uwchben Pen-y-bont ar ôl mynd ar rediad rhyfeddol o 16 gêm gynghrair heb golli.

Lawr yn y Chwech Isaf, a chwe phwynt sy’n gwahanu Hwlffordd, Met Caerdydd, Llansawel a’r Fflint yn y frwydr i orffen yn 7fed a chyrraedd y gemau ail gyfle, a hynny ar ôl i'r tîm o Sir Benfro guro'r Bala nos Wener.

CHWECH UCHAF

Pen-y-bont (3ydd) v Cei Connah (2il) | Dydd Sadwrn – 12:30 (Arlein)

Mi fydd hi’n ornest allweddol yn y ras i gyrraedd Ewrop yn Stadiwm Dragonbet rhwng dau dîm sydd ar rediadau gwrthgyferbyniol.

Mae Cei Connah wedi mynd ar rediad o 16 o gemau cynghrair heb golli am y tro cyntaf erioed gan dorri 10 pwynt yn glir yn yr ail safle (ennill 11, cyfartal 5).

Dyw Pen-y-bont ar y llaw arall, m’ond wedi ennill un o’u wyth gêm ddiwethaf (Llanelli 0-1 Pen-y-bont), a bydd Rhys Griffiths yn benderfynol o godi hyder ei hogiau cyn y gemau ail gyfle.

Mae Rhys Hughes yn mwynhau tymor campus arall gyda Chei Connah ac mae’r asgellwr 24 mlwydd oed wedi cyfrannu at 24 o goliau cynghrair y tymor hwn (sgorio 13, creu 11).

Dim ond Jordan Williams (YSN) sydd wedi sgorio mwy a chyfrannu at fwy o goliau na Rhys Hughes, ond mae Hughes yn eistedd ar frig rhestr y crewyr, yn hafal gyda Daniel Williams (YSN).

Enillodd Cei Connah eu dwy gêm yn erbyn Pen-y-bont yn rhan gynta’r tymor, ac fe sgoriodd Rhys Hughes dair o goliau yn erbyn y Gleision.

Record cynghrair diweddar: 

Pen-y-bont: ➖✅➖➖❌
Cei Connah: ✅✅➖➖➖

Caernarfon (4ydd) v Y Barri (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Daeth yr enwau allan o’r het ar gyfer rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD yr wythnos hon, a bydd angen i Gaernarfon wneud beth wnaeth Y Barri fethu a’i wneud fis nesaf, sef curo Y Rhyl 1879.

Dyw Caernarfon erioed wedi codi Cwpan Cymru, ond y Cofis yw’r ffefrynnau eleni, ac os all tîm Richard Davies guro Y Rhyl 1879 o’r ail haen yn y rownd gynderfynol, yna mi awn nhw ymlaen i gystadlu yn erbyn unai Y Fflint neu Dinas Bangor 1876 yn y rownd derfynol.

Dyw Caernarfon m’ond wedi colli un o’u wyth gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth (ennill 3, cyfartal 4), a gyda dim ond triphwynt yn gwahanu’r Caneris a Phen-y-bont, bydd y Cofis yn anelu i orffen yn y tri uchaf am y tro cyntaf erioed eleni.

Mae’r Barri wedi cyrraedd y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers pum mlynedd, ac wedi hawlio lle yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG, ond dyw’r Dreigiau heb fod ar eu gorau’n ddiweddar.

Mae’r Barri wedi colli pump o’u chwe gêm ddiwethaf, ac mae gan Gaernarfon record gryf yn erbyn y Dreigiau gan i’r Cofis ennill pump o’r wyth gornest ddiwethaf rhwng y clybiau (cyfartal 2, colli 1).

Record cynghrair diweddar: 

Caernarfon: ͏❌✅➖➖➖

Y Barri: ❌❌✅❌❌

CHWECH ISAF

Y Fflint (10fed) v Llansawel (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Pwynt yn unig sy’n gwahanu’r Fflint a Llansawel yn y Chwech Isaf, a bydd y ddau dîm yn awyddus i gystadlu am y 7fed safle, a chodi’n bellach o safleoedd y cwymp.

Ar ôl curo’r ddau glwb isa’n y tabl, a threchu Bae Trearddur yng Nghwpan Cymru, mae’r Fflint wedi ennill tair gêm yn olynol am y tro cyntaf y tymor yma.

Bydd Y Fflint yn wynebu Dinas Bangor 1876 o’r drydedd haen yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru fis nesaf, gyda’r Sidanwyr yn breuddwydio am godi’r cwpan am y tro cyntaf ers 1954.

Dyw Llansawel m’ond wedi cadw un llechen lân yn eu 15 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, ond ar ddechrau’r penwythnos dyw tîm Andy Dyer ond dau bwynt y tu ôl i Hwlffordd (7fed).

Mae gan Y Fflint record ragorol yn erbyn Llansawel gan nad yw’r Sidanwyr wedi colli dim un o’u chwe gornest yn erbyn y Cochion (ennill 4, cyfartal 2).

Mae amddiffynnwr a capten Y Fflint, Harry Owen yn amlwg yn mwynhau chwarae’n erbyn Llansawel gan iddo sgorio chwech o goliau mewn chwe gêm yn eu herbyn.

Harry Owen sgoriodd y ddwy gôl yn erbyn Llansawel ar Gae y Castell yn rhan gynta’r tymor, gyda’r Fflint yn ennill o 2-1 ym mis Medi.

Record cynghrair diweddar: 

Y Fflint: ❌✅❌✅✅
Llansawel: ͏➖✅✅✅❌

Llun: CPD Cymru
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.