Cyflwyno cynlluniau ar gyfer fferm solar enfawr ger Bodelwyddan
Mae cynlluniau wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygu fferm solar enfawr ger Bodelwyddan.
Byddai'r datblygiad arfaethedig, gan gwmni Bodelwyddan Solar and Energy Storage Ltd, yn ymestyn dros tua 184 hectar (455 erw) o dir amaethyddol ar y ffin rhwng Sir Ddinbych a Chonwy, i'r gogledd a'r de o Fodelwyddan.
Yn ogystal â'r fferm solar, mae'r cynllun yn cynnwys cyfleuster storio ynni mewn batris a llwybr penodol ar gyfer ceblau er mwyn cysylltu'r safle'n uniongyrchol ag Is-orsaf Drydan Bodelwyddan.
Yn ôl y cais cynllunio, mae tua 70% o'r safle o fewn Sir Conwy, gyda'r 30% arall yn Sir Ddinbych.
Mae'r cais yn cyfeirio at bolisi cynllunio Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040, sy'n nodi targed Cymru o gynhyrchu 70% o'r trydan sy'n cael ei ddefnyddio o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030, a tharged diwygiedig o 100% erbyn 2035.
Oherwydd maint y cynllun, mae wedi'i ddosbarthu'n Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol.
Mae hynny'n golygu y bydd arolygwyr Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) yn archwilio'r cais, cyn i weinidogion Llywodraeth Cymru, yn hytrach na'r cynghorau lleol, wneud y penderfyniad terfynol.
Roedd y cynllun eisoes wedi cael ei drafod fel rhan o ymgynghoriad cychwynnol gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Conwy ym mis Rhagfyr 2025.
'Cyflwyno sylwadau'
Mae Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cael gwybod am y datblygiad, ac mae gan gynghorwyr a thrigolion lai na mis i gyflwyno eu sylwadau.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych: "Mae'r cyngor wedi derbyn cais i gyflwyno Adroddiad ar yr Effaith Leol (LIR) i PEDW fel rhan o'r broses.
"Yn aml, mae'r amserlen ar gyfer cyflwyno'r adroddiad yn golygu nad oes modd llunio adroddiadau drafft a'u cyflwyno i'n Pwyllgor Cynllunio i'w cymeradwyo.
"O ganlyniad, mae adroddiadau drafft fel arfer yn cael eu hanfon at aelodau lleol ac aelodau arweiniol, gyda chyfle iddynt gyflwyno sylwadau.
"Fodd bynnag, dylid nodi bod gan aelodau lleol, unrhyw gynghorydd arall ac aelodau'r cyhoedd yr hawl i gyflwyno eu sylwadau eu hunain yn uniongyrchol i PEDW o fewn y cyfnod penodedig."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Conwy y bydd y cais yn cael ei archwilio gan PEDW cyn i weinidogion Cymru wneud penderfyniad.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 23 Tachwedd.
