Cwpan Cymru: Caernarfon i herio'r Fflint yn y rownd derfynol

Cwpan CYmru

Brynhawn Sul bydd gêm fwya’r tymor yn cael ei chynnal yn Rodney Parade, Casnewydd wrth i Gaernarfon a’r Fflint gystadlu yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD.

Mae Caernarfon wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru JD am y tro cyntaf yn eu hanes, a gyda’r Cofis bum safle’n uwch na’r Fflint yn nhabl y Cymru Premier JD, nhw fydd y ffefrynnau i godi’r cwpan brynhawn Sul.

Mae’r Fflint wedi codi’r cwpan unwaith yn y gorffennol, a hynny ‘nôl ym 1954 ar ôl curo Caer o 2-0 yn y rownd derfynol ar y Cae Ras, Wrecsam.

Roedd torf o 15,584 ar y Cae Ras y diwrnod hwnnw i weld Y Fflint yn codi’r cwpan, a 72 o flynyddoedd yn ddiweddarach bydd y Sidanwyr yn gobeithio cael gafael ar y tlws unwaith yn rhagor.

Yn y 72 o flynyddoedd ers i’r Fflint godi’r cwpan, dim ond deirgwaith y mae torf gystal wedi bod yn y rownd derfynol: 1955/56 - Caerdydd v Abertawe (37,500), 1981/82 - Abertawe v Caerdydd (15,828), 1992/93 - Caerdydd v Y Rhyl (16,443).

Roedd yna dorf sylweddol yn gwylio buddugoliaeth Caernarfon ym Mae Colwyn y penwythnos diwethaf, gyda 2,357 ar Ffordd Llanelian  ddydd Gwener y Groglith, sef y pumed dorf fwyaf yn holl hanes y gynghrair.

Ac er bod dipyn o siwrne i’w gwneud gan y ddau dîm i lawr i Gasnewydd ddydd Sul, mae disgwyl awyrgylch arbennig ar Rodney Parade ar gyfer yr ornest fawr, gyda thocyn i Ewrop yn y fantol.

Y daith i’r rownd derfynol:

Caernarfon: Y Drenewydd (0-3), Penrhyncoch (4-0), Met Caerdydd (2-4), Bae Colwyn (4-1), Y Rhyl 1879 (2-1)

Dechreuodd taith Caernarfon gyda buddugoliaethau cyfforddus yn erbyn clybiau’r canolbarth gyda’r Cofis yn taro tair heibio i’r Drenewydd, a phedair yn erbyn Penrhyncoch.

Aeth y gemau’n anoddach i’r Caneris wedyn wrth i dîm Richard Davies wynebu Met Caerdydd a Bae Colwyn o’r uwch gynghrair, ond y Cofis yn llwyddo i sgorio pedair gôl yn y ddwy gêm honno, cyn trechu Y Rhyl 1879 o 2-1 yn y rownd gynderfynol.

Y Fflint: Bow Street (0-3), Airbus UK (1-0), Pen-y-bont (0-0 cos), Bae Trearddur (3-0), Dinas Bangor 1876 (5-1)

O ran Y Fflint, fe lwyddon nhw i gyrraedd y rownd gynderfynol heb ildio gôl, yn curo Bow Street, Airbus UK a Bae Trearddur o’r haenau îs, ond daeth yr her anoddaf yn y bedwaredd rownd oddi cartref ym Mhen-y-bont.

Gorffennodd hi’n ddi-sgôr yn Stadiwm Dragonbet yn dilyn cerdyn coch i Chris Venables o Ben-y-bont wedi dim ond saith munud, ac fe aeth Y Fflint ymlaen i ennill yr ornest ar giciau o’r smotyn.

Roedd y pwysau i gyd ar Y Fflint yn y rownd gynderfynol yn erbyn Bangor 1876 o’r drydedd haen, ond roedd hi’n berfformiad proffesiynol gan y Sidanwyr yn ennill o 5-1, gyda’r bwlch mewn safon yn amlwg.

Byddai codi’r cwpan yn gamp aruthrol i’r naill dîm neu’r llall, ond fydd y tymor ddim ar ben wedi’r gêm brynhawn Sul gyda chymaint ar ôl i’w gyflawni. 

Mae’r Fflint mewn safle bregus iawn yn y 10fed safle yn nhabl y Cymru Premier JD, ac mae angen buddugoliaeth oddi cartref ym Met Caerdydd ymhen pythefnos os am sicrhau eu lle’n y gynghrair y tymor nesaf.

Pe bae Caernarfon yn colli’n y rownd derfynol, yna mi fyddan nhw’n cystadlu yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor, a byddai buddugoliaeth yn erbyn Pen-y-bont ar y penwythnos olaf yn golygu eu bod yn camu’n syth i’r rownd gynderfynol, ac o bosib yn hawlio gêm gartref.  

Ond ennill y gwpan fydd yr unig beth ar feddyliau’r ddwy garfan ar hyn o bryd, yn enwedig o ystyried y wobr o gael chwarae’n Ewrop dros yr haf.

Fe chwaraeodd Caernarfon yn Ewrop am y tro cyntaf yn haf 2024 gan guro Crusaders o Ogledd Iwerddon, cyn colli’n erbyn cewri Gwlad Pwyl, Legia Warsaw.

Dyw’r Fflint erioed wedi cystadlu ar y llwyfan Ewropeaidd, ac felly gwireddu’r freuddwyd honno fydd y nod i Lee Fowler a’i dîm.

Ers curo Bangor o 5-1 yn y rownd gynderfynol, dyw’r canlyniadau na’r perfformiadau heb fod yn gryf gan Y Fflint gyda’r Sidanwyr yn cael gemau cyfartal yn erbyn Y Bala a Llansawel, cyn colli gartref yn erbyn Llanelli a Hwlffordd.

Dyw Caernarfon heb fod ar eu gorau chwaith, yn colli tair yn olynol yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Y Rhyl yn y rownd gynderfynol, ond bydd y triphwynt yn erbyn Bae Colwyn y penwythnos diwethaf yn hwb mawr i garfan Richard Davies cyn y ffeinal ddydd Sul.

Wrth edrych ar y record benben mae’r fantais seicolegol yn sicr gan Gaernarfon gan nad ydyn nhw wedi colli yn eu chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Y Fflint (ennill 4, cyfartal 2).

Er hynny, fe orffennodd hi’n 1-1 yn yr ornest ddiwethaf rhwng y clybiau ym mis Rhagfyr, a phe bae hi’n gorffen yn gyfartal wedi 90 munud ddydd Sul, yna byddai rownd derfynol Cwpan Cymru yn mynd i giciau o’r smotyn am y tro cyntaf ers 23 o flynyddoedd (Y Barri’n curo Cwmbrân yn 2003).

Yn yr 17 blynedd diwethaf mae o leiaf un o’r pedwar timau uchaf yn y pyramid wedi cymryd rhan yn rownd derfynol y gwpan, ond nid dyna’r achos eleni wrth i’r clwb sy’n 5ed herio’r tîm sy’n 10fed.

Yn y 12 tymor diwethaf, mae’r Seintiau Newydd neu Cei Connah wedi cystadlu ym mhob un o’r rowndiau terfynol, felly bydd hi’n ffeinal wahanol i’r hyn yr ydyn ni wedi arfer ei weld dros y blynyddoedd diweddar.

Un peth sy’n sicr yw y bydd yn achlysur hanesyddol gan y byddwn ni unai’n gweld Caernarfon yn codi un o brif dlysau Cymru am y tro cyntaf erioed, neu bydd Y Fflint yn cael eu henw ar y cwpan am y tro cyntaf ers 1954.

Bydd y cyfan yn fyw o Rodney Parade, Casnewydd am 15.00 ddydd Sul ar S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.