Cwpan y Byd: Tafarnau’n cael aros ar agor yn hwyrach
Bydd tafarnau’n cael aros ar agor tan 2.00 yn ystod Cwpan y Byd os yw un o wledydd y Deyrnas Unedig yn cyrraedd rownd y 32 olaf.
Mae’r Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood, wedi cytuno i ymestyn oriau tafarnau ar gyfer y benacmpwriaeth sy’n cael ei chynnal ar y cyd gan yr Unol Daleithiau America, Canada a Mecsico.
Mae Lloegr a’r Alban eisoes wedi sicrhau eu lle yn y twrnamaint, sy’n dechrau ar 11 Mehefin, tra bod Cymru a Gogledd Iwerddon yn gobeithio cynhwyso drwy’r gemau ail-gyfle.
Bydd tafarndai hefyd yn gallu gwneud cais am drwydded dros dro ar gyfer gemau sy’n cychwyn yn hwyr iawn ac a allai orffen ar ôl 2am, oherwydd y gwahaniaeth amser.
Dywedodd Ms Mahmood: “Gyda gemau’n cychwyn yn hwyrach yng Nghwpan y Byd eleni, dydyn ni ddim eisiau i dafarnau orfod chwythu’r chwiban olaf cyn y gôl fuddugol.
“Felly rydyn ni’n rhoi cerdyn coch i’r fiwrocratiaeth, ac yn rhoi amser ychwanegol i dafarndai, fel y gall cefnogwyr gael un rownd arall heb golli’r un gic.
“Byddwn ni’n codi llwncdestun i’n bechgyn yng Nghwpan y Byd ac i’n tafarndai lleol yr haf yma. Ni fydd rhaid i gefnogwyr fynd adref cyn i bêl-droed ‘ddod adref’.”
Mae’r cynigion yn cael eu cyflwyno drwy welliant i’r Bil Troseddu a Phlismona, sy’n cael ei drafod yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Yn ôl yr adroddiadau, roedd Ms Mahmood wedi ystyried yn flaenorol caniatáu i dafarndai aros ar agor os oedd un o wledydd y Deyrnas Unedig yn cyrraedd rownd yr wyth olaf yn unig.
Dywedodd y British Beer and Pub Association wrth bapur newydd The Sun fod y penderfyniad yn “fuddugoliaeth i dafarnau, swyddi ac ysbryd cymunedol”.