Cwmni sy'n berchen ar British Gas yn prynu gorsaf bŵer yng Nghasnewydd am £370 miliwn
Mae cwmni Centrica, sy'n berchen ar British Gas, wedi prynu gorsaf bŵer nwy yng Nghasnewydd gan Calon Energy am £370 miliwn.
Dywedodd y cwmni ynni ei fod wedi cwblhau’r broses o brynu gorsaf bŵer nwy Severn, sydd, yn ôl y cwmni, yn un o’r rhai mwyaf effeithlon yn y DU.
Mae’r cytundeb yn dod â phortffolio pŵer Centrica i bedwar gigawat, gydag enillion blynyddol disgwyliedig rhwng £30 miliwn a £60 miliwn o 2027.
Mae'n rhan o ymdrechion y grŵp i gynyddu ei fuddsoddiad cyfalaf a fydd yn debygol o gyrraedd cyfanswm o tua £1.1 biliwn yn 2026.
Dywedodd y cwmni fod safle'r orsaf nwy mewn lleoliad strategol yn agos at ffynonellau lle mae galw cynyddol am bŵer.
Mae'r ffynonellau yma yn cynnwys canolfannau data sy’n cael eu datblygu yn ne Cymru.
'Sicrhau diogelwch cyflenwad'
Mae Centrica wedi dweud wrth fuddsoddwyr y bydd cynhyrchu trydan sy’n cael ei gynhyrchu gan nwy naturiol yn "parhau i chwarae rhan hollbwysig wrth gynnal sefydlogrwydd y system yn ystod trawsnewid ynni’r DU" drwy "sicrhau diogelwch cyflenwad".
Dywedodd Chris O’Shea, prif weithredwr Centrica: "Mae pwysigrwydd cynhyrchu dibynadwy a hyblyg i gydbwyso’r system yn parhau i gynyddu, gan gadw cyflenwadau ynni’n ddiogel ac yn fforddiadwy wrth i’r broses o drawsnewid ynni fynd rhagddi.
"Bydd Severn yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi’r daith honno.
"Gyda’r gwaith o ddarparu capasiti newydd yn cael ei effeithio gan fynediad at y grid, costau cynyddol a chyfyngiadau yn y gadwyn gyflenwi, ynghyd â chau asedau nwy sy’n heneiddio tua diwedd y degawd, bydd yr angen am asedau fel Severn yn cynyddu."
Dywedodd y cwmni ei fod yn monitro effaith y rhyfel yn y Dwyrain Canol, sydd wedi achosi i brisiau olew a nwy i godi’n sylweddol ers i’r gwrthdaro ddechrau ddiwedd mis Chwefror.
Bydd Centrica yn cynnal ei gyfarfod cyffredinol blynyddol yng Nghaerdydd ddydd Iau.