Cwmni o Abertawe'n rhan o ymchwiliad i filiynau o negeseuon ffôn niwsans

Dynes yn edrych ar ei ffôn

Mae gwarchodwr data Prydain wedi chwilio eiddo pum cwmni ar draws y DU, gan gynnwys un o Gymru, mewn ymchwiliad i gwmnïau sydd wedi anfon 170 miliwn o negeseuon ffôn niwsans yn ymwneud â hawliadau camwerthu cyllid ceir.

Dywedodd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) eu bod wedi gweithredu gwarantau chwilio mewn eiddo preswyl a busnesau yn Abertawe, Bolton, Burnley, Lerpwl a Llundain.

Daw hyn yn dilyn mwy na 12 miliwn o gwynion am negeseuon testun niwsans am gyllid ceir ers mis Medi'r llynedd, gyda hyd at 100,000 yn cael eu derbyn gan yr ICO bob dydd.

Y gred yw bod y pum cwmni, sydd heb eu henwi, sy'n cael eu hymchwilio ar amheuaeth o farchnata niwsans, yn gyfrifol am anfon cyfanswm o 170 miliwn o negeseuon testun rhwng mis Medi 2025 a mis Mai eleni.

Mae'r ICO wedi bod yn gweithio gyda'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol, (FCA), Awdurdod Safonau Hysbysebu a’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr i fynd i'r afael â'r ffordd y mae rhai cwmnïau sy'n dod o hyd i gleientiaid, cwmnïau rheoli hawliadau a chwmnïau cyfreithiol yn delio â hawliadau camwerthu cyllid ceir.

Dywedodd Andy Curry, pennaeth ymchwiliadau gyda'r ICO: "Mae pobl wedi blino cael eu boddi gan alwadau, negeseuon testun ac e-byst digroeso am hawliadau cyllid ceir, ac rydym yn cymryd camau gweithredu."

"Mae'r chwiliadau yr wythnos hon yn anfon neges glir i'r sector rheoli hawliadau: cydymffurfiwch â'r gyfraith neu disgwyliwch glywed gennym."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.