Chwe Gwlad: Cymru'n colli yn erbyn yr Alban yng Nghaerdydd
Fe gollodd Cymru yn erbyn yr Alban yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd brynhawn dydd Sadwrn.
Roedd Cymru'n gobeithio am eu buddugoliaeth gyntaf yn erbyn yr Alban mewn mwy na thair blynedd wrth ddechrau eu hymgyrch yn y Chwe Gwlad.
Fe ddechreuodd y gêm ychydig o funudau'n hwyr oherwydd nam technegol gyda meicroffon y dyfarnwr.
Fe wnaeth amddiffyn Cymru ddechrau'n dda gan roi cyfle i'r tîm cartref ymosod.
Fodd bynnag, aeth yr Alban ar y blaen ar ôl wyth munud yn dilyn symudiad o 80m gyda'r cefner Chloe Rollie yn croesi a'r maswr Helen Nelson yn trosi. Cymru 0-7 Yr Alban.
Ond fe darodd Cymru yn ôl gyda grym y blaenwyr yn rhoi cyfle i'r bachwr Kelsey Jones groesi ar ôl 11 munud a'r mewnwr Keira Jones yn trosi i ddod â'r gêm yn gyfartal. Cymru 7-7 Yr Alban.
Cafodd prop yr Alban Leah Bartlett gerdyn melyn yn dilyn hynny.
Dangosodd blaenwyr Cymru eu grym unwaith eto gan roi cyfleoedd i ymosod a chymryd mantais o droseddi yr Alban.
Daeth Cymru'n agos i groesi'r llinell gais ond fe gafodd yr Alban eu cosbi eto ac fe gymrodd prop Cymru Sisilia Tuipulotu ei chyfle i ddal pêl rydd ar gefn lein i groesi am gais ar ôl 19 munud.
Fe darodd Bevan y pyst gyda'i hymgais i drosi ac roedd Cymru ar y blaen am y tro cyntaf. Cymru 12-7 Yr Alban.
Fe giciodd Nelson gôl gosb i'r Alban ar ôl 34 munud pan gafodd Cymru eu cosbi yng nghanol eu 22. Cymru 12-10 Yr Alban ac fe gadwodd y tîm cartref eu blaenoriaeth tan yr egwyl.
Cael a chael oedd y chwarae yn y deng munud ar ddechrau'r ail hanner gydaa'r naill dîm a'r llall yn cael eu cosbi a heb wneud y mwyaf o'r meddiant oedd yn dilyn.
Fe giciodd Nelson yn uchel i 22 Cymru heb fawr o fygythiad ond methodd olwyr Cymru i faesu'r bêl gan adael i asgellwr yr Alban, Shona Campbell fachu ar y cyfle am gais ar ôl 51 munud. Fe drosodd Nelson i ddodi'r Alban ar y blaen unwaith eto. Cymru 12-17 Yr Alban.
Roedd yr Alban yn cael y gorau o'r cicio tactegol gan orfodi Cymru i amddiffyn tipyn yn eu hanner eu hunain.
Daeth ergyd i Gymru pan dderbyniodd yr wythwr Bryonie King gerdyn melyn am dacl beryglus ar ôl 59 munud.
Fe fanteisiodd yr Alban ar hyn gyda'r eilydd Lucia Scott yn dal y bêl o gic letraws i frasgamu drosodd am gais ar ôl 67 munud. Fe drosodd Nelson. Cymru 12-24 Yr Alban.
Daeth gobaith i Gymru pan groesodd y capten Kate Williams o dan y pyst ar ôl 73 munud yn dilyn rhediad Seren Lockwood. Fe drosodd Bevan ond doedd gan Gymru ddim digon o amser ar ôl.
Y sgôr terfynol: Cymru 19-24 Yr Alban.
Llun: Asiantaeth Huw Evans