Anafiadau i dri yn eu harddegau wedi ymosodiad honedig yng Nghasnewydd
Mae tri o blant yn eu harddegau wedi cael eu hanafu yn dilyn digwyddiad yng Nghasnewydd.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i adroddiad o ymosodiad mewn coetir ger Graham Bell Close yn ardal Malpas, toc cyn 19:00 nos Wener.
Yn ôl y llu, aeth tri dyn at y plant, sef merch 14 oed a dau fachgen 14 a 15 oed, a'r gred yw bod un o'r dynion yn cario gwn aer.
Yn ôl adroddiadau, cafodd y tri phlentyn eu taro gan beled, ac mae honiadau i'r bachgen 14 oed ddioddef ymosodiad corfforol.
Mae'r Heddlu'n apelio am wybodaeth.