Arestio dyn wedi i fedd James Bulger gael ei ddifrodi

Bedd James Bulger

Cyhoeddodd yr heddlu fod dyn 78 oed wedi ei arestio ar ôl i fedd James Bulger gael ei ddifrodi yn Lerpwl. 

Cafodd y plentyn dwy oed ei lofruddio gan Jon Venables a Robert Thompson a oedd yn 10 oed ar y pryd, ar ôl iddyn nhw ei ddenu o ganolfan siopa yn Bootle ar Lannau Mersi yn 1993. 

Yn ôl adroddiadau, mae ei fedd ym mynwent Kirkdale Cemetery, wedi ei ddifrodi am yr eildro mewn chwe wythnos. 

Yn ôl Heddlu Glannau Mersi, mae dyn 78 oed o Kirkby, wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi difrod troseddol a lladrata. 

Yn ôl y llu, daeth gwybodaeth i law fod difrod i'r bedd am 13:20 ddydd Gwener a chafodd y dyn ei arestio toc ar ôl 16:00. 

Dywedodd yr heddlu y byddan nhw'n dal i ddiweddaru a chefnogi teulu James wrth i'r ymchwiliad barhau . 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.