I Am Maximus yn ennill y Grand National am yr eildro
Enillodd y ceffyl I Am Maximus ras y Grand National yn Aintree brynhawn Sadwrn a hynny am yr eildro.
Dyma’r tro cyntaf i geffyl wneud hynny ers Red Rum yn 1977.
Fe oedd yr enillydd yn 2024 hefyd.
Roedd yn ras dda i jocis o Gymru gyda Ben Jones o Sir Gaerfyrddin ar gefn Jordans yn dod yn drydydd a James Bowen o Sir Benfro ar gefn High Class Hero yn dod yn bumed.
Roedd Jordans ar y blaen dros y glwyd olaf gyda mantais o chwe hyd.
Ond fe orffennodd y ffefryn I Am Maximus gyda’i joci Paul Townend yn gryfach i fynd heibio yn y camau olaf.
Dyma'r trydydd tro yn olynol i'w hyfforddwr Willie Mullins ennill y Grand National, a'r Gwyddel yw'r hyfforddwr cyntaf ers Vincent O'Brien rhwng 1963 ac 1965 i ennill deirgwaith yn olynol.
Cafodd un joci, Robbie Dunne ei gludo i ysbyty wedi iddo gwympo, ond yn ôl adroddiadau, mae e'n ymwybodol ac yn siarad.
Llun: PA